Penodi Arholwyr Allanol

arteffact

Y Broses Benodi
  • Dylai Ysgolion/Colegau fynd at Arholwr Allanol posibl i geisio cael ei gytundeb mewn egwyddor.
  • Dylai staff y Coleg/Ysgol lenwi’r ffurflen enwebuberthnasol (gan ddibynnu ar a ydynt yn goruchwylio myfyriwr israddedig neu raglen ôl-raddedig a addysgir.
  • Yna, rhaid i’r staff lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd, gyda CV cyfredol a chopi o’u pasbort (a fisa os yw’n briodol) at y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd i graffu arni i ddechrau. Sylwer: Efallai bydd Colegau/Ysgolion yn gofyn i chi gyfeirio pob enwebiad i swyddfa Coleg/Ysgol ganolog yn gyntaf).
  • Bydd Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau/Dirprwy Is-ganghellor Academaidd yn adolygu’r enwebiad a gynigwyd.
  • Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn anfon llythyr at yr Arholwr Allanol yn cadarnhau’r hyn bydd yn ei oruchwylio dan gontract. Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn rhoi gwybod i’r Coleg/Ysgol pan fydd yr Arholwr Allanol yn derbyn y penodiad. Ni ddylid anfon gwaith at yr Arholwr Allanol nes y bydd y Coleg/Ysgol wedi derbyn y neges dderbyn hon.
  • Dylai Colegau/Ysgolion anfon yr wybodaeth berthnasol am y rhaglen at yr Arholwr Allanol, gan gynnwys asesiadau drafft/gwaith a aseswyd iddo graffu arnynt.
  • Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gwahodd Arholwyr Allanol i ddigwyddiad ymsefydlu blynyddol.
  • Ni all Colegau/Ysgolion benodi arholwr nac ymestyn contract/ychwanegu rhaglenni ychwanegol ar gyfer arholwyr allanol, heb ddefnyddio’r gweithdrefnau penodi cymeradwy.

Meini Prawf ar Gyfer Penodi
Rhaid i Arholwyr Allanol fodloni’r meini prawf a nodir yn y Rheoliadau Academaidd ar gyfer rhaglenni a addysgir. Wrth lenwi’r ffurflen enwebu, atodir y meini prawf hyn fel rhestr wirio ddefnyddiol, ond rhaid cwblhau’r rhain hefyd.

Mae cyfyngiadau ar bwy all fod yn Arholwr Allanol ar gyfer rhaglenni a addysgir. Gellir cyflwyno achos dros ganiatáu achosion arbennig. Gweler yr adrannau Gwrthdaro Buddiannau a Materion Gweinyddol wrth benodi Arholwyr Allanol.

Rhaid i Arholwyr Allanol fod yn gymwys hefyd i weithio yn y DU a rhaid iddynt ddarparu’r dystiolaeth berthnasol i’r Brifysgol cyn cael eu penodi.

Gwrthod Enwebiadau

Rhoddir rhesymau os na chaiff enwebiad ei gymeradwyo, a gall y Coleg/Ysgol gyflwyno rhagor o wybodaeth a chyfiawnhad o blaid yr enwebiad. Y Dirprwy Is-ganghellor Academaidd sydd â’r penderfyniad terfynol. Gweler yr adran Ymestyn y Cyfnod Penodi neu Ganiatáu Achosion Arbennig


Diwedd Cyfnod Swydd Arholwr Allanol
Bydd staff y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cysylltu â Phennaeth y Coleg/Ysgol, fel arfer yn ystod y mis Ionawr cyn diwedd contract Arholwr Allanol. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar unrhyw adeg i gael manylion ynghylch eich Arholwyr Allanol cyfredol a chyfnod eu swyddi.

Pryd i benodi Arholwr Allanol

Rhaid i bob rhaglen astudio sy’n arwain at ddyfarniad gan Brifysgol Abertawe gael Arholwr Allanol. Mae’r Arholwr Allanol yn goruchwylio’r modiwlau a’r cydrannau hynny sy’n cyfrannu at y dyfarniad. Nid oes angen Arholwr Allanol yn aml ar lefel israddedig tan ail flwyddyn y rhaglen. Fodd bynnag, penodir Arholwyr Allanol i oruchwylio blwyddyn gyntaf y flwyddyn sylfaen. O ran rhaglenni ôl-raddedig a addysgir, bydd arholwyr allanol yn goruchwylio pob elfen o’r rhaglen.

Pan gaiff rhaglenni newydd eu cymeradwyo, caiff cynigwyr rhaglenni eu hatgoffa bod yn rhaid iddynt ddyrannu’r rhaglen i Fwrdd Astudiaethau cyfredol/newydd a dechrau’r broses o enwebu Arholwr Allanol.


Ymestyn Contractau a Phenodi Achosion Arbennig

Os yw Coleg/Ysgol yn dymuno penodi neu barhau i benodi Arholwr Allanol sydd, mewn amgylchiadau eithriadol, yn mynd yn groes i’r meini prawf penodi cyffredinol, rhaid i’r Coleg/Ysgol gyflwyno cyfiawnhad dros pam fod angen i’r penodiad barhau.

Dylai’r Coleg/Ysgol gyflwyno ei gyfiawnhad/chyfiawnhad i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, a bydd y staff yma yn craffu ar y cais. Bydd ceisiadau anghyflawn neu anghymwys am estyniad yn cael eu dychwelyd i’r Coleg/Ysgol am ragor o wybodaeth/ail-enwebu arholwr arall.

Wrth benodi achosion arbennig, hyd y swydd yw blwyddyn fel arfer.

Bydd ceisiadau dilys a gwblhawyd ar gyfer estyniad/amgylchiadau arbennig yn cael eu harchwilio gan Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau (ar gyfer ymestyn swyddi hyd at bumed flwyddyn) neu’r Dirprwy Is-ganghellor Addysg ar gyfer pob achos arbennig arall. Pan na chaiff enwebiadau eu cymeradwyo, gall y Coleg/Ysgol ailgyflwyno’r enwebiad, gan ddarparu rhagor o fanylion i gyfiawnhau’r enwebiad.

Cedwir penderfyniadau ar wrthod unrhyw enwebiadau gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.


Newidiadau i strwythur y rhaglen a/neu gynnydd yn nifer y myfyrwyr

Caiff contractau a ffioedd Arholwyr Allanol ar gyfer rhaglenni israddedig eu pennu yn ôl yr wybodaeth a roddir gan Golegau/Ysgolion ar adeg penodi. Os bydd y trefniadau hyn yn newid yn sylweddol, cysylltwch â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd gyda’r wybodaeth berthnasol, a gallai’r contract gael ei ddiwygio.

£750 yw’r ffi fwyaf a delir i bob Arholwr Allanol ar gyfer rhaglenni israddedig a rhaglenni ôl-raddedig a addysgir. Os bydd y ffioedd yn cyrraedd yr uchafswm hwn, bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cysylltu â’r Coleg/Ysgol i’w argymell yn gryf i enwebu Arholwr Allanol ychwanegol i rannu’r llwyth gwaith.


Ychwanegu modiwl/rhaglen ychwanegol neu ymestyn cyfnod y contract

Gellir ychwanegu modiwlau/rhaglenni ychwanegol i lwyth gwaith Arholwr Allanol, ar yr amod nad yw nifer y myfyrwyr yn ormodol ac nid yw nifer yr Arholwyr Allanol cyfredol yn uwch na’r rheol “dau fel arfer.” Dau Arholwr Allanol yn unig ddylai gael eu penodi ar unrhyw un adeg. Dylai’r Coleg/Ysgol gysylltu â’r Arholwr Allanol i ofyn a hoffai ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol. Yna dylai Colegau/Ysgolion gysylltu â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd i ofyn am ffurflen estyniad/ffurflen modiwlau ychwanegol/ffurflen rhaglenni ychwanegol fel y bo’n briodol.


 

< Cod Ymarfer – Arholwyr Allanol | Meini Prawf Penodi  >

css.php