Bob blwyddyn, mae’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni’n goruchwylio adolygiad pob rhaglen ar draws y Brifysgol ar bob lefel, ar sail data tueddiadau recriwtio a chudd-wybodaeth am y farchnad, i sicrhau bod ei bortffolio o raglenni’n parhau i fod yn gyfredol ac yn ddichonadwy. Mae gofyn i’r holl Golegau/Ysgolion adolygu eu portffolios ac ymateb i argymhellion y Bwrdd Rheoli Rhaglenni o ran cynnal, gwella neu ohirio rhaglenni, neu dynnu rhaglenni’n ôl o’r portffolio cyfan.
Drwy’r broses hon, bydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni hefyd yn nodi rhaglenni a ohiriwyd y mae angen camau gweithredu pellach ar eu cyfer naill ai cyflwyno cais ar gyfer ymestyn y gohiriad hyd at gyfnod hwyaf o ddwy sesiwn academaidd, ail-ddechrau’r rhaglen neu ei thynnu’n ôl).
Camau Gweithredu Gofynnol:
- Dylech chi adolygu data ac argymhellion yr Adolygiad Blynyddol o Bortffolios ar gyfer eich Coleg/Ysgol
- Rhaid i chi asesu pob rhaglen ar sail dichonolrwydd a data recriwtio a rhoi ymateb i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni
- Rhaid i chi gwblhau’r broses ar gyfer gohirio/tynnu’n ôl ar gyfer pob rhaglen sydd i’w dileu