Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau

Dylid adolygu holl fodiwlau’r Brifysgol yn ffurfiol yn dilyn pob pwynt cyflwyno, gan ystyried perfformiad y myfyrwyr, adborth gan fyfyrwyr ar fodiwlau, adborth gan gymheiriaid drwy arsylwi a myfyrdod tiwtoriaid, er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn parhau i fod yn gyfredol a’i fod yn cael ei hysbysu gan ymchwil/ymarfer, ac i sicrhau bod dulliau cyflwyno ac asesu’n cael eu gwella’n barhaus. Mae’r Adolygiad Blynyddol o Raglenni’n darparu sylfaen fanwl i’r Cyfarwyddwyr Rhaglenni gwblhau’r broses Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau.
Mae’r broses Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau wedi’i hintegreiddio â’r broses Adolygu Ansawdd. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau yn Datblygu Modiwlau Newydd ac Adolygu a Gwella Modiwlau.


Camau Gweithredu Gofynnol:
  • Cwblhewch Ffurflen yr Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau ar gyfer pob modiwl rydych yn ei chydlynu fel Cydlynydd y Modiwl.
  • Cyflwynwch eich Ffurflenni Adolygiad Blynyddol o Fodiwlau i’r Cyfarwyddwyr Rhaglenni perthnasol iddynt gael eu cynnwys yn y broses Adolygiad Blynyddol o Raglenni.

< Adolygiad Ansawdd | Adolygiad Blynyddol o Raglenni >

 

css.php