Mae datblygu rhaglen newydd drwy gydweithio â phartner yn dilyn yr un llwybr, i raddau helaeth, ag unrhyw raglen newydd arall.Y prif wahaniaeth yw, yn ogystal â chraffu ar y rhaglen academaidd a’i chymeradwyo, mae ganddi adran arall sy’n canolbwyntio ar adolygu a chymeradwyo’r partner(partneriaid).Gan ddibynnu ar natur y cydweithrediad, gall hyn gynnwys llawer o randdeiliaid mewnol. Gall y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd weithio’n agos gyda’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd (APD), y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol (IDO), y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) a Thîm Gwasanaethau Cyfreithiol y brifysgol i gefnogi colegau ac ysgolion wrth iddynt ddatblygu, cymeradwyo ac adolygu partneriaethau cydweithredol. Gall fod gan bob un o’r rhanddeiliaid hyn gyfrifoldeb unigryw am gam (camau) penodol o’r broses ddatblygu.I gael rhagor o fanylion am ddyraniad cyfrifoldebau rhanddeiliaid, gweler ein hadran Cwestiynau Cyffredin.
Isod, ceir graff sy’n rhoi trosolwg o’r broses datblygu a chymeradwyo cynigion cydweithredol:
< Egwyddorion Partneriaethau Cydweithredol | Y Broses Datblygu a Chymeradwyo ar gyfer y Bartneriaeth / Rhaglen Gydweithredol Newydd >