Mae Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd yn Fwrdd Prifysgol, sy’n rhan o’r Adran Ansawdd Academaidd ddiwygiedig yn y Gwasanaethau Academaidd. Mae’r Bwrdd yn adrodd i’w riant-bwyllgor – y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd.
Diben y Bwrdd yw goruchwylio rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol, ac ystyried a chymeradwyo/gwneud argymhellion ar yr holl geisiadau sy’n ymwneud â rheoliadau ac achosion myfyrwyr. Mae’r Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio, monitro ac adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau a rheoliadau presennol y Brifysgol o ran achosion myfyrwyr.
Cadeirydd: Prof Michael Draper
Ysgrifennydd: Fiona Rees-Cridland
Cyflwyno papur: Cwblhewch ac atodwch y dalen glawr i’ch papur, a’i gyflwyno regulations@swansea.ac.uk.
Ymholiadau: Os oes angen mwy o wybodaeth ar unrhyw adeg, e-bostiwch regulations@swansea.ac.uk.
< Pwyllgor Ymgynghorol Academaidd | Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol >