Ynglŷn â GAA

Sicrhau Ansawdd - Cynddu Arloesi

Ein Hathroniaeth

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad uchelgeisiol, sy’n ymrwymedig i dwf parhaus, ac mae arni angen dull sicrhau a gwella ansawdd sy’n helpu i wireddu’r uchelgais hwnnw.

Fe gymeron ni’r cyfle i adolygu ac ailfframio gwaith sicrhau ansawdd i ddefnyddio dull ffres gan ddefnyddio dulliau a oleuir gan ddata, sy’n seiliedig ar risgiau ac yn canolbwyntio’n llai ar ymarferion ticio blychau traddodiadol ac yn fwy ar ddarparu gwasanaeth effeithiol, wedi’i liflinio sy’n dwyn effaith i ddefnyddwyr a’r Brifysgol. Gan gymryd ysbrydoliaeth yn rhyngwladol, ac yn arbennig o’r dull seiliedig-ar-wella yn yr Alban, rydym yn ystyried bod Sicrhau Ansawdd yn hanfodol i ddynameg fusnes darparu rhaglenni a phrofiad myfyrwyr o ansawdd da, sy’n ymroddedig i wneud pethau’n well yn barhaus, yn hytrach na chynnal y sefyllfa bresennol.

Rydym yn ystyried mai taith yw sicrhau a gwella ansawdd, ac rydym wrthi’n barhaus yn archwilio ffyrdd arloesol o wella ein prosesau trwy integreiddio a defnydd effeithlon o ddata a systemau, ac yn cydweithio’n agos gydag ystod o wasanaethau proffesiynol ar draws y Brifysgol i ddarparu datrysiadau cynaliadwy.


Ein Cenhadaeth

Bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn datblygu ac yn cyflawni dull sy’n flaengar yn y sector ac sy’n arloesol ac yn eithriadol o sicrhau a gwella ansawdd, gan alluogi Prifysgol Abertawe i gyflawni a chynnal twf parhaus a phrofiad rhagorol ar gyfer myfyrwyr, o fewn y Prifysgolion gorau yn y DU erbyn 2020.


Beth ydym yn ei Wneud?

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cyflawni ystod eang o rolau sicrhau a gwella ansawdd o fewn y Brifysgol, ac maent yn hanfodol i gyflawni ar draws meysydd allweddol.

Rydym yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid: Academyddion, Myfyrwyr a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol yn arbennig, i roi cymorth, cyngor, arweiniad a hyfforddiant er mwyn cyd-greu a chyflawni datrysiadau effeithiol.

Ansawdd, Safonau a Rheoliadau

  • Gwasanaethu pwyllgorau a byrddau ar lefel y Brifysgol sy’n berthnasol i sicrhau a gwella ansawdd.
  • Drafftio, rheoli a chynnal rheoliadau ac Arweiniad Academaidd y Brifysgol.
  • Drafftio, rheoli a chynnal Llawlyfrau Colegau i Fyfyrwyr
  • Rheoli’r prosiect adolygu Rheoliadau Ymchwil Ôl-raddedig

Datblygu, Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni

  • Trosolwg a rheolaeth ar bortffolio o raglenni’r Brifysgol
  • Datblygu a chymeradwyo rhaglenni newydd
  • Cymeradwyo a rheoli gwelliannau i raglenni
  • Rheoli’r broses Adolygu Ansawdd integredig i sicrhau ansawdd darpariaeth y Brifysgol a mynd ati’n barhaus i’w wella.

Ymgysylltu Allanol

  • Rheoli’r Arholwyr Allanol a’r broses
  • Sicrhau ansawdd rhaglenni gyda Phartneriaid Cydweithredol
  • Gweithio gyda Chyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol

Dysgu, Addysgu ac Asesu

  • Drafftio, diwygio a chynnal Polisïau a Phrosesau perthnasol
  • Sicrhau bod arferion cynhwysol yn cael eu sefydlu ym mhob cwricwlwm
  • Gwneud argymhellion ar gyfer gwella
  • Cynghori ynghylch Dyluniad y Cwricwlwm, dulliau Asesu a.y.b.
  • Cyflawni elfennau arwyddocaol o Raglen Diwygio’r Cwricwlwm, Tu Hwnt i Ddisgwyliadau

Sut Allwn ni Helpu?

Yn anad dim, gwasanaeth yw’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd. Rydym ni yma i’ch cynorthwyo, hwyluso pethau ar eich cyfer a’ch galluogi i fod y gorau y gallwch fod, gan sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal yn gadarn ond yn gymesur, gan warchod enw da’r Brifysgol a’r staff a myfyrwyr ynddi.

Y ffordd orau y gallwn ni eich helpu chi yw os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich bod yn dod ar draws problem, a’n bod ninnau’n gallu eich cynorthwyo drwy’r broses i gael y datrysiad gorau posibl.

Gallwn roi cyngor ac arweiniad ynghylch unrhyw un o’r meysydd yr ydym yn gyfrifol amdanynt, ac yn aml mewn meysydd cysylltiedig, i sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth gorau. Mae gennym hefyd Godau Ymarfer a Chwestiynau Cyffredin ar y wefan hon i helpu.

Mae gennym swyddog ymgysylltu sydd wedi’i neilltuo i bob un o’n Colegau cyfansoddol i roi arbenigedd yn y fan a’r lle, a Rhwydwaith Ansawdd mewnol i rannu profiad ac arfer effeithiol o fewn y Brifysgol.

Rydym wrthi’n barhaus yn archwilio ac yn adolygu ein systemau a’n prosesau i sicrhau eu bod yn cyflawni ar ran y defnyddiwr a’r Brifysgol, ac yn ceisio adborth ynghylch sut y gallwn wella.


 

< Cartref | Cwrdd â Thîm y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd >

css.php