Proses Cymeradwyo Rhaglenni

Y Cam Cymeradwyo: Cymeradwyo Rhaglen Astudio Newydd

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses o ddatblygu’r cynnig llawn ar gyfer eich rhaglen newydd trwy’r System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar-lein, bydd angen i chi gyflwyno’r cynnig i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Dim ond unwaith y maent wedi cael eu hargymell ar gyfer cymeradwyaeth gan y pwyllgor hwn, a’u cymeradwyo’n derfynol gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, y gall rhaglenni newydd gael eu lansio ar gyfer myfyrwyr.

Er mwyn bod wedi cyrraedd y cam hwn rhaid i chi fod wedi cwblhau’r camau gweithredu canlynol cyn cyflwyno cynnig i gael ei gymeradwyo:

  1. Cwblhau proses y Prawf o Gysyniad a chael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni
  2. Cwblhau’r Ffurflen Cynnig am Raglen Newydd a chael cymeradwyaeth gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni
  3. Sefydlu a Monitro Cynllun Datblygu Rhaglen.
  4. Ar gyfer Rhaglenni Cydweithredol Yn Unig: Cael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Darpariaeth Gydweithredol
  5. Ar gyfer Rhaglenni Cydweithredol Yn Unig: cwblhau Diwydrwydd Dyladwy ac adroddiadau ar ymweliadau â safleoedd.
  6. Cwblhau Cynnig Llawn am Raglen.

Beth yw ‘Cymeradwyo Rhaglenni’?

Cymeradwyo rhaglenni yw’r term a gymhwysir i’r broses sy’n ofynnol gan y Brifysgol a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i sicrhau bod unrhyw raglenni astudio a ddarperir ar gyfer myfyrwyr wedi cael eu hadolygu’n drylwyr gan y Brifysgol, gyda mewnbwn allanol perthnasol gan academyddion, cyflogwyr a myfyrwyr i sicrhau bod y rhaglen newydd yn cyrraedd y safonau mewnol ac allanol gofynnol, ac y bydd yn addas i’w diben.


Pam fod Rhaglenni Newydd yn cael eu Cymeradwyo?

Rhaid i’r holl raglenni newydd ar bob lefel, gan gynnwys rhaglenni a addysgir, rhaglenni ymchwil a rhaglenni cydweithredol, y cynigir eu darparu ar gyfer myfyrwyr, gael eu hadolygu a’u cymeradwyo gan y Brifysgol cyn eu darparu, gydag ymgysylltiad priodol â myfyrwyr, mewnbwn allanol gan arbenigwyr pwnc a, lle bynnag y bo’n bosibl, gan gyflogwyr. Mae hyn yn galluogi’r Brifysgol i sicrhau ansawdd rhaglenni newydd yn erbyn meincnodau allanol perthnasol, a sicrhau bod lefelau priodol o graffu allanol annibynnol ar y rhaglen a’i chynnwys yn cael eu gweithredu. Yn bwysicaf oll, mae hyn yn galluogi’r Brifysgol i sicrhau y bydd y rhaglen yn darparu’r profiad rhagorol i fyfyrwyr y mae’n ei ddisgwyl gan bob rhaglen a ddarperir.


A oes Prosesau Cymeradwyo Gwahanol ar Gyfer Mathau Gwahanol o Raglenni?

Caiff ‘mathau’ o raglenni eu diffinio fel a ganlyn: rhaglenni israddedig a addysgir (gan gynnwys Graddau Sylfaen), rhaglenni ôl-raddedig a addysgir, rhaglenni ymchwil a rhaglenni cydweithredol (a addysgir neu ymchwil). At ei gilydd mae’r broses ar gyfer pob math o raglen yr un fath, ond mae rhai gwahaniaethau sy’n adlewyrchu nodweddion arbennig pob math. Ar hyn o bryd, bydd yr holl raglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir safonol yn cael eu cyflwyno trwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar-lein. Bydd rhaglenni ymchwil yn cael eu cyflwyno y tu allan i’r broses hon yn y cyfamser, a bydd yr holl raglenni cydweithredol yn cael eu cyflwyno yn unol â’r fersiwn safonol o’r rhaglen, gyda dogfennaeth ategol ychwanegol yn ofynnol. Yng ngham datblygu nesaf y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni bydd pob math o raglen yn cael eu datblygu a’u rheoli ar-lein, ond ni fydd hyn yn lansio tan fis Medi 2018 ar y cynharaf.


Sut y caiff Raglenni Newydd eu Cymeradwyo?

Mae’r holl raglenni newydd yn dilyn proses adolygu a chymeradwyo sy’n sicrhau eu bod yn addas i’w diben ac yn cyrraedd y safonau a bennir gan y Brifysgol ac asiantaethau allanol (gan gynnwys cyrff achredu neu broffesiynol), ac y byddant yn darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae’r holl gynigion newydd yn mynd trwy gam craffu cychwynnol gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ar ôl eu cyflwyno, a fydd yn barnu a yw’r cynigion o’r safon gywir i symud ymlaen. Bydd yr holl gynigion sy’n cyrraedd y safon yn cael eu hadolygu yn y cyfarfod nesaf sydd ar gael gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Os yw’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd y Pwyllgor yn argymell wrth y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd bod y rhaglen yn cael ei chymeradwyo. Gall y Pwyllgor bennu amodau wrth ei chymeradwyo y bydd angen eu bodloni cyn cael cymeradwyaeth derfynol. Bydd rhaglenni sydd naill ai’n peidio â llwyddo yn y cam craffu cychwynnol neu nad ydynt yn cael eu hargymell ar gyfer eu cymeradwyo yn cael eu hatgyfeirio’n ôl at y Coleg a’u cynigiodd gydag argymhellion.

Mae tri phrif ddull ar gyfer cymeradwyo rhaglenni, a gaiff eu crynhoi yn y siart lif isod. Ceir prosesau adolygu a chymeradwyo tebyg ond ychydig yn wahanol ar gyfer rhaglenni ymchwil a chydweithredol i sicrhau bod y Brifysgol yn gallu sicrhau ansawdd pob rhaglen newydd mewn ffordd sy’n drylwyr ond yn gymesur ac yn briodol (ar gyfer cymeradwyo rhaglenni cydweithredol neu ymchwil newydd gweler yr adrannau perthnasol).


Pwy sy’n Penderfynu pa Ddull Cymeradwyo y Dylid ei Ddefnyddio?

Caiff lefel y risg a achosir gan raglen ei hasesu gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ystod y cam craffu cychwynnol. Wedyn caiff dull cymeradwyo ei aseinio i’r rhaglen. Mewn achosion cymhleth, Cadeirydd y Pwyllgor Rhaglenni fydd yn penderfynu ar y dull cymeradwyo. Fel rheol, lle mae achosion yn ffiniol, bydd y Pwyllgor yn dewis y dull cymeradwyo ar gyfer lefel uwch o risg.


Sut y caiff Rhaglenni a Addysgir eu Cymeradwyo?

Bydd yr holl raglenni a addysgir newydd yn dilyn y broses gymeradwyo safonol, sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol gan gynnwys meincnodau allanol, dysgu, addysgu ac asesu, profiad myfyrwyr ac ymgysylltiad â chyflogwyr. Mae’r rhestr wirio ar gyfer Cymeradwyo Rhaglenni Safonol yn darparu rhestr gyflawn o’r holl feysydd y creffir arnynt.


Sut y caiff Rhaglenni Ymchwil eu Cymeradwyo?

Fel rheol bydd adolygu a chymeradwyo rhaglenni ymchwil yn dilyn yr un prosesau â’r holl raglenni eraill, ond byddant yn canolbwyntio ar y diwylliant a’r amgylchedd ymchwil, goruchwyliaeth, cyfleusterau ac adnoddau, ac ar gyfer rhaglenni ymchwil ag elfen a addysgir, y cysylltiad rhwng ymchwil ac addysgu. Mae’r rhestr wirio ar gyfer Cymeradwyo Rhaglenni Ymchwil yn darparu rhestr gyflawn o’r holl feysydd y creffir arnynt.


Sut y caiff Cymeradwyo Rhaglenni Cydweithredol?

Caiff yr holl gynigion ar gyfer rhaglenni cydweithredol newydd eu hadolygu a’u cymeradwyo mewn ffordd debyg i’r prosesau a nodir ar gyfer rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil, ond mae nifer o gamau ychwanegol i sicrhau bod y risgiau ychwanegol yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Ynghyd â’r cynnig am raglen, a ddylai gael ei lunio trwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni, bydd angen i’r holl gynigion am raglenni cydweithredol gynnwys ystod o weithgareddau diwydrwydd dyladwy ar y sefydliad(au) partner, a hefyd cael eu hadolygu a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol, cyn cael eu hystyried gan Bwyllgor y system Cymeradwyo Rhaglenni. Mae’r rhestri gwirio (safonol ac ymchwil) ar gyfer  Cymeradwyo Rhaglenni Cydweithredol yn darparu rhestr gyflawn o’r holl feysydd y creffir arnynt.


Beth yw’r gwahanol ddulliau o Gymeradwyo Rhaglenni?

Mae tri dull cymeradwyo ar gael i’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni, i ddarparu dull cymesur a seiliedig-ar-risg o gynnal y broses gymeradwyo, gan daro cydbwysedd rhwng effeithlonrwydd a thrylwyredd:

Cymeradwyaeth Safonol i Raglenni (Pwyllgor yn unig)

Os yw’r Pwyllgor yn penderfynu bod y cynnig yn achosi risg minimol ac yn bodloni’r meini prawf perthnasol, yna mae Cymeradwyaeth Safonol i Raglenni yn berthnasol. Lle bynnag y bo’n bosibl, a gyda chymorth craffu cychwynnol trylwyr, bydd y Pwyllgor yn adolygu’r cynnig ac yn gwneud argymhelliad i’w gymeradwyo yn yr un cyfarfod.

 

Cymeradwyaeth Fanylach i Raglenni (Pwyllgor gydag Adroddiadau gan Arbenigwr Pwnc Allanol a Chyflogwr)

Os yw’r Pwyllgor yn penderfynu bod y cynnig yn fwy o risg, neu fod gofynion proffesiynol penodol yn gysylltiedig ‘r cynnig, a’i fod yn bodloni’r meini prawf perthnasol, gall y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni ddewis dilyn y broses Cymeradwyaeth Fanylach i Raglenni. Bydd y cynnig yn dilyn y broses Cymeradwyaeth Safonol i Raglenni (a nodir uchod), ond bydd y Pwyllgor yn comisiynu adroddiadau ychwanegol, y naill gan Arbenigwr Pwnc Allanol (APA) a’r llall gan Gyflogwr. Rhaid i’r Coleg gyflwyno manylion dau Arbenigwr Pwnc Allanol, gydag un yn cael ei ddewis gan Gadeirydd y Bwrdd Rheoli Rhaglenni. Anfonwch neges e-bost i academicprogrammes@swansea.ac.uk i gael y ffurflen berthnasol ar gyfer enwebu Arbenigwr Pwnc Allanol. Bydd adroddiad gan yr Arbenigwr Pwnc Allanol yn ddigonol ar gyfer y math hwn o gymeradwyaeth.

Cymeradwyaeth Lawn i Raglenni (Pwyllgor gydag Arbenigwr Pwnc Allanol a Chyflogwr yn bresennol)

Lle mae rhaglenni’n arloesol, mewn maes pwnc cwbl newydd, yn gydweithredol neu’n golygu risg a allai fod yn fawr i’r Brifysgol, bydd y Pwyllgor yn cynnal adolygiad cynhwysfawr. Bydd y Gymeradwyaeth Lawn i Raglenni yn cael ei defnyddio hefyd ar gyfer rhaglenni y byddai fel arfer yn ofynnol iddynt gael eu hachredu gan gorff proffesiynol. Gall achrediad gan gorff proffesiynol ddigwydd ar yr un pryd â’r digwyddiad dilysu, ond rhaid iddo beidio â digwydd cyn y digwyddiad dilysu. (Gellir trefnu bod yr APA a/neu’r Cyflogwr ar gael trwy saingynadledda/fideogynadledda).

Gweler yr adran ar enwebu a phenodi Arbenigwyr Pwnc Allanol i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am gydymffurfio ag UKVI.


Beth yw Craffu Cychwynnol?

Unwaith y maent wedi’u cyflwyno i gael eu hadolygu, mae’r holl gynigion am raglenni’n mynd trwy gam craffu cychwynnol i gadarnhau bod y cynnig wedi cael ei gwblhau’n llawn i’r safon a ddisgwylir gan y Brifysgol. Yn ystod y cam craffu cychwynnol, bydd y dull cymeradwyo hefyd yn cael ei bennu yn seiliedig ar risg. Dim ond rhaglenni sy’n llwyddo yn y cam craffu cychwynnol fydd yn symud ymlaen i gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni.


Pam fod cam Craffu Cychwynnol ar gyfer Cynigion am Rhaglenni Newydd?

Mae craffu cychwynnol wedi cael ei roi ar waith i sicrhau bod unrhyw gynigion a gaiff eu hystyried gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn gyflawn ac yn cyrraedd y safonau isaf a ddisgwylir. Mae hyn yn cyflymu’r broses adolygu a chymeradwyo trwy alluogi’r Pwyllgor i ganolbwyntio ar elfennau academaidd allweddol y rhaglen gan feddu ar wybodaeth lawn am y ffeithiau allweddol, yn hytrach na gweithredu â gwybodaeth anghyflawn. Mae’r Pwyllgor wedi treulio peth wmbredd o amser yn ystod blynyddoedd blaenorol yn adolygu rhaglenni anghyflawn sydd wedi cael eu gwrthod gan y Pwyllgor ar sawl achlysur. Diben craffu cychwynnol, felly, yw lleihau’r amser a wastreffir a chynyddu effeithlonrwydd i’r eithaf.


Pwy sy’n Adolygu Cynigion yn Ystod y cam Craffu Cychwynnol ?

Mae aelod o’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, fel arfer y Swyddog Gwella Ansawdd Academaidd sydd wedi’i aseinio i’r Coleg sy’n cynnig, yn craffu ar yr holl gynigion am raglenni newydd. Ni fydd y craffwr yn adolygu cynnwys academaidd, ond bydd yn ceisio sicrhau bod y cynnig am raglen wedi cael ei gwblhau’n llawn a’i fod yn cyrraedd y safonau sy’n ofynnol er mwyn symud ymlaen i’r adolygiad gan y Pwyllgor. 


Beth sy’n Digwydd os Nad yw fy Nghynnig yn Llwyddo yn y cam Craffu Cychwynnol?

Os yw eich cynnig yn anghyflawn neu os nad yw’n cyrraedd y safonau gofynnol, bydd yn cael ei atgyfeirio’n ôl at y Coleg sy’n cynnig gydag adborth i’w wella. Bydd y Swyddog Gwella Ansawdd Academaidd sydd wedi’i aseinio i’r Coleg yn gweithio gyda Chynigiwr y Rhaglen i sicrhau bod y cynnig yn cael ei gwblhau a’i wella fel ei fod yn cyrraedd y safon os oes angen. Mae’r dull hwn yn cynyddu i’r eithaf y siawns o gael canlyniad llwyddiannus, ac yn osgoi gwastraffu amser y Pwyllgor.


Beth yw Rôl yr Arbenigwr Pwnc Allanol?

Rôl yr Arbenigwr Pwnc Allanol yw adolygu cynnwys academaidd a phwnc-benodol y rhaglen a chynghori’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni ynghylch unrhyw agweddau y mae’n ofynnol eu gwella. Bydd yr Arbenigwr Pwnc Allanol yn cael ei wahodd i ymuno â’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni dros dro i ddarparu arbenigedd pwnc-benodol academaidd ar gyfer datblygiadau sy’n achosi risg canolig neu fawr.


Pwy all Fod yn Arbenigwr Pwnc Allanol?

Mae Arbenigwr Pwnc Allanol fel arfer yn uwch academyddion profiadol mewn maes sy’n berthnasol i’r rhaglen a gynigir, a fydd yn gallu sicrhau cynnwys a safon academaidd y rhaglen. Ni ddylai fod gan Arbenigwyr Pwnc Allanol unrhyw gysylltiadau ffurfiol â Phrifysgol Abertawe, nac unrhyw bartneriaid allanol ar gyfer rhaglenni cydweithredol.


Sut ydw i’n Enwebu Arbenigwr Pwnc Allanol?

Caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu henwebu gan ddefnyddio’r Ffurflen Enwebu ar gyfer Arbenigwyr Pwnc Allanol Dylid enwebu o leiaf ddau arbenigwr annibynnol, a gall fod yn ofynnol cael enwebiadau pellach. Ar gyfer rhaglenni sy’n cynnwys mwy nag un maes pwnc, gall fod yn angenrheidiol recriwtio Arbenigwr Pwnc Allanol ar gyfer pob maes. Dylid darparu gwybodaeth lawn am brofiad, cefndir a maes arbenigedd pob enwebai.


Pwy sy’n dewis Arbenigwyr Pwnc Allano?

Caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu dewis yn y pen draw gan y Brifysgol i sicrhau annibyniaeth, fel arfer gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni neu Ddirprwy Is-ganghellor.


Sut y caiff Arbenigwyr Pwnc Allanol eu Penodi?

Faint o Dâl y mae Arbenigwyr Pwnc Allanol yn ei Gael?

Beth yw Rôl y Cynrychiolydd Cyflogwyr?

Rôl y Cynrychiolydd Cyflogwyr yw adolygu’r cynnig am raglen o safbwynt diwydiant i sicrhau bod y rhaglen yn rhoi’r sgiliau a’r priodoleddau perthnasol i raddedigion er mwyn cynyddu eu cyflogadwyedd i’r eithaf. Mae hyn yn symlach ar gyfer rhai rhaglenni na’i gilydd, ond dyhead y Brifysgol yw y dylai’r holl raglenni sicrhau graddedigion â sgiliau perthnasol ar gyfer cyflogaeth.


Sut y caiff Cynrychiolwyr Cyflogwyr eu Dewis?

Gall cynrychiolwyr cyflogwyr gael eu dewis mewn nifer o ffyrdd, fel sy’n berthnasol i’r rhaglen. Ar gyfer rhaglenni sy’n mynd i gael eu darparu gyda chyflogwr, bydd y Cynrychiolydd Cyflogwyr o’r cwmni partner. Mewn achosion eraill, gall y Cynrychiolydd Cyflogwyr gael ei ddewis o blith Ymgynghorwyr Diwydiannol presennol, Bwrdd Rheoli Academi Cyflogadwyedd Abertawe neu enwebiadau perthnasol eraill a fydd yn gallu rhoi adborth gwybodus ar effeithiolrwydd y rhaglen a gynigir o safbwynt cyflogaeth. 


 

< Cyflwyno eich Cynnig i Gael ei Adolygu | Y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni (PCRh) >

css.php