Y Cam Cymeradwyo: Ar ôl Cymeradwyo

Am Faint mae fy Rhaglen yn cael ei Chymeradwyo?

Caiff pob rhaglen ei chymeradwyo am gyfnod o bum mlynedd fel arfer.

Mae’n ofynnol i’r cohort cyntaf o fyfyrwyr gofrestru ar raglen a gymeradwywyd o fewn 24 mis i gymeradwyo’r rhaglen (sy’n caniatáu amser dirwyn sylweddol i sicrhau bod rhaglenni’n cael eu lansio gyda chyfradd recriwtio lwyddiannus).

Mewn achosion lle nad yw hyn yn digwydd, a/neu lle nad oes unrhyw un wedi cofrestru ar y rhaglen am dair sesiwn academaidd olynol, bydd y rhaglen yn cael ei hystyried ar gyfer ei thynnu’n ôl a rhaid iddi gael ei hailgymeradwyo cyn unrhyw weithgarwch recriwtio yn y dyfodol.

Bydd y broses Adolygu Ansawdd yn adolygu ac yn ailgymeradwyo rhaglenni yn y rhan fwyaf o achosion eraill, oni bai fod newidiadau sylweddol i raglenni’n ofynnol, ac os felly byddant yn cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni dan y broses Diwygio Rhaglen Bresennol.


Sut a Phryd y mae Codau Rhaglenni’n cael eu Dyrannu?

Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo i’w datblygu gan y Bwrdd Rheoli Rhaglenni, bydd cod Rhaglen Prifysgol yn cael ei ddyrannu i bob rhaglen, a bydd cod UCAS yn cael ei ddyrannu iddynt ar ôl cymeradwyaeth derfynol gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Mae’r broses hon yn awtomatig ar gyfer rhaglenni a gyflwynir trwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar-lein.


Beth y mae Angen i mi ei Wneud Unwaith y mae fy Rhaglen wedi cael ei Chymeradwyo?

Unwaith y mae eich rhaglen wedi cael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni ac wedi cael ei chadarnhau gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, bydd angen i chi gwblhau’r camau canlynol cyn i’r cohort cyntaf o fyfyrwyr gyrraedd.

  1. Sicrhau y penodir Arholw(y)r Allanol priodol
  2. Marchnata a hyrwyddo’r rhaglen a recriwtio myfyrwyr
  3. Sicrhau bod tudalennau gwe’r Rhaglen yn cael eu creu, eu bod yn gywir ac yn cael eu lansio (gan gynnwys tudalennau’r Set Wybodaeth Allweddol)
  4. Sicrhau bod llawlyfrau perthnasol ar gyfer myfyrwyr yn cael eu cwblhau ac y trefnir eu bod ar gael
  5. Sicrhau bod Bwrdd Astudiaethau ar gael i reoli’r rhaglen
  6. Sicrhau bod tudalennau Blackboard priodol ar gyfer modiwlau yn cael eu creu a’u poblogi.
  7. Sicrhau bod unrhyw fentoriaid neu oruchwylwyr allanol yn cael eu penodi a’u hyfforddi
  8. Yn achos Rhaglen Gydweithredol/Rhaglenni Cydweithredol â lleoliadau – sicrhau y rhoddir digon o hyfforddiant i bartneriaid ar reoliadau a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe.

 

< Y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni (PCRh) | Datblygu Rhaglen gyda Phartner (Rhaglenni Cydweithredol) >

 

css.php