Mae ein Hadolygiadau Ansawdd Integredig yn rhan allweddol o’n proses Sicrhau Ansawdd a Gwella sy’n cynnwys trafodaeth a fydd yn para am gyfnod rhwng hanner diwrnod a deuddydd ac maent yn cynnwys Tîm Adolygu a Thîm Addysgu o faes neu raglen sy’n benodol i’r pwnc.
Ceir dau fath o Adolygiad, sef adolygiadau rheolaidd a rhai uwch. Mae’r adran hon yn amlinellu’r gwahaniaethau rhwng y ddwy ymagwedd ac yn darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd cyn ac ar ôl cynnal y ddau fath o adolygiad, ynghyd â’r hyn sy’n digwydd yn ystod y broses.
Beth yw Adolygiad Ansawdd?
Conglfaen y broses sicrhau ansawdd academaidd yw Adolygiadau Ansawdd (a adwaenir yn flaenorol fel Adolygiadau Rhaglenni Rheolaidd neu Ail-ddilysu) ac maent yn rhan hanfodol o ddatblygiad parhaus. Fodd bynnag, roedd dull yr hen broses yn anhyblyg, felly lluniodd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ymagwedd ar sail dwy elfen hanfodol: hyblygrwydd ac integreiddio, cydnabod yr angen am ymagweddau gwahanol at heriau gwahanol, a’r ymagwedd gynyddol integredig at Feysydd Pynciau a Cholegau.
Mae’n rhaid cynnal Adolygiadau Ansawdd o’r holl raglenni o leiaf unwaith bob chwe blynedd fel sy’n ofynnol yn ôl disgwyliadau a dangosyddion Côd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch ond, yn unol â newidiadau yn y Sector, mae Prifysgol Abertawe’n ymchwilio i ymagweddau mwy effeithiol at sicrhau ansawdd sy’n seiliedig ar risgiau ac sy’n canolbwyntio ar wella parhaus.
Credwn y dylai’r holl brosesau gyflwyno’r gwerth mwyaf ar gyfer Meysydd Pynciau a’r Brifysgol, ac rydym yn gweithio’n barhaus i wella’r broses a chyflwyno ymagweddau a fydd yn gwella’r profiad i fyfyrwyr.
Beth yw Adolygiad Ansawdd Uwch?
Cynhelir Adolygiad Ansawdd Uwch pan gaiff problemau penodol eu nodi o fewn rhaglen benodol, maes pwnc, Adran neu Goleg. Ar wahân i Adolygiadau Ansawdd Rheolaidd, ni chynhelir y rhain fel rhan o gylchred oes rhaglen ac fe’u defnyddir yn hytrach i ddatrys problemau a chynnig cefnogaeth i’r meysydd dan sylw.
Mae’r ymagwedd hon yn integreiddio proses lwyddiannus yr Adolygiad Gwella Profiad Myfyrwyr a gyflwynwyd hyd at 2016, ac yn adeiladu arni.
Pwy sy’n Penderfynu a Ddylid Cynnal Adolygiad Ansawdd Uwch?
Mae gan bob Coleg Swyddog Ymgysylltu yn y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd a bydd pob swyddog yn adolygu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ei goleg, gan gynnwys:
- Ffurflenni Adolygiad Blynyddol o Raglenni
- Ffurflenni Adolygu Modiwlau
- Adroddiadau Arholwyr Allanol
- Cofnodion cyfarfodydd Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu’r Colegau
- Data arolygon myfyrwyr, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Arolwg Profiad y Myfyrwyr, Arolwg Profiad y Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir ac Arolwg Profiad y Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
- Adroddiadau adborth ar fodiwlau
Hefyd, bydd y Swyddogion Ymgysylltu’n cysylltu’n rheolaidd â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu bob Coleg a bydd y Cyfarwyddwyr yn hysbysu’r swyddogion am broblemau y gall fod angen ymyrraeth ar eu cyfer. Cynhelir cyfarfod ffurfiol rhwng y Swyddog Ymgysylltu a’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu unwaith y semester, pan gaiff gweithgareddau pob adran eu trafod.
Os bydd y Swyddogion Ymgysylltu’n nodi problemau o fewn rhaglen, maes pwnc, Adran neu Goleg, byddant yn trafod hyn â Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Coleg yn gyntaf. Y Dirprwy Is-ganghellor fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnal Adolygiad.
Yna, bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gweithio gyda’r maes dan sylw i sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o’r cynlluniau, gan gynnig cefnogaeth drwy gydol y broses.
Pryd Caiff yr Adolygiadau hyn eu Cynnal?
Gellir cynnal y math hwn o adolygiad ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.
Ddylwn i Bryderu?
Ni ddylech. Mae’r math hwn o adolygiad yn rhan o gylchred oes rhaglen, ac mae ganddo ddau brif ddiben:
- Nodi a rhannu arfer da â chymuned ehangach y Brifysgol
Nodi meysydd lle gellir gwella a phenderfynu sut y gall y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd ddarparu rhagor o gyngor a chefnogaeth.
Beth sy'n Digwydd cyn yr Adolygiad?
Unwaith bod Adolygiad wedi cael ei nodi, bydd Cydlynydd yr Adolygiad yn cwrdd â Chyfarwyddwr y Rhaglen i esbonio’r broses yn fanwl ac ateb cwestiynau a all fod ganddynt. Rhoddir y Llawlyfr Adolygiadau Ansawdd i Gyfarwyddwr y Rhaglen at ddiben cyfeirio drwy gydol y broses.
Mae’n rhaid i Gyfarwyddwr y Rhaglen a’i Dîm Addysgu gwblhau Dogfen Hunanwerthuso (ceir rhagor o wybodaeth am y ddogfen hon o dan “Beth yw Dogfen Hunanwerthuso?”). Mae’n rhaid cyflwyno hon un mis cyn yr Adolygiad er mwyn rhoi digon o amser i’r Tîm Adolygu ddarllen a thrafod y ddogfen. Bythefnos cyn yr Adolygiad, bydd y Tîm Adolygu’n cynnal Cyfarfod Ymlaen Llaw i drafod y ddogfennaeth a nodi themâu allweddol i’w trafod ar y diwrnod, a fydd yn sail i’r agenda.
Pa Ddogfennau y bydd y Tîm Adolygu yn eu Harchwilio?
Yn ogystal â’r Ddogfen Hunanwerthuso, ystyrir y ddogfennaeth ategol ganlynol gan y Tîm Adolygu:
- Templedi Adolygiad Blynyddol Rhaglenni a gwblhawyd ac Adroddiadau ac Ymatebion (y 3 blynedd diwethaf)
- Manyleb y Rhaglen (Manylebau Rhaglenni) a Disgrifwyr y Modiwlau
- Adroddiadau ac Ymatebion Asesu Allanol (gan gynnwys Arholwyr Allanol) (y 3 blynedd diwethaf)
- Adroddiadau gan Bwyllgorau Myfyrwyr/Staff mewn perthynas â’r rhaglen (y 3 blynedd diwethaf)
- Llawlyfrau Myfyrwyr 17-18
- Cofnodion y Bwrdd Astudio (y 3 blynedd diwethaf)
- Adroddiadau Adborth ar Drosolygon y Modiwlau (y 3 blynedd diwethaf)
- Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr a/neu Arolwg Profiad Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir, Arolwg Profiad Myfyrwyr
- Map Cwricwlwm a Strategaeth Asesu
- Datganiad Meincnod Pwnc ASA
Yr eitemau mewn print bras yw’r ddogfennaeth y bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gofyn amdani gan y Coleg/Ysgol. Mae gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd fynediad at yr holl eitemau eraill.
Bydd Ysgrifennydd yr Adolygiad, sef Swyddog Ymgysylltu â Cholegau’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd fel arfer ar gael i gefnogi tîm y maes pwnc drwy gydol y broses. Bydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â’r Tîm i’w gynorthwyo wrth iddo lunio’r Ddogfen Hunanwerthuso a bydd ar gael i gynnig cyngor ac ateb cwestiynau y gall fod gan y tîm.
Beth yw'r Ddogfen Hunanwerthuso?
Mae’r Ddogfen Hunanwerthuso’n ddarn allweddol o ddogfennaeth ar gyfer yr Adolygiad ac mae’n gofyn i Gyfarwyddwr y Rhaglen, gyda chefnogaeth y Tîm Addysgu, ddarparu adroddiad am y chwe adran ganlynol:
- Strategaeth y Brifysgol a’r Coleg
- Gwybodaeth am y Maes Pwnc
- Profiad y Myfyrwyr
- Ansawdd Addysgu
- Amgylchedd Dysgu
- Deilliannau a Chynnydd Dysgu MyfyrwyrYmchwil
- Materion, Tueddiadau a Datblygiad ar gyfer y Dyfodol
- Crynodeb
Mae’r adrannau mewn print bras yn cynnwys metrigau (os yw’n berthnasol) ar gyfer y maes pwnc neu’r rhaglen, a bydd gofyn i’r Tîm Addysgu fyfyrio ar y metrigau hyn ac ymateb iddynt. Mae’r meysydd eraill yn gofyn am fyfyrio ac ymateb hefyd, fodd bynnag, ni ddarperir metrigau yn yr adrannau hyn.
Yn ogystal â rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i’r Panel Adolygu, defnyddir y Ddogfen Hunanwerthuso hefyd i wirio risgiau. Ar ôl iddo dderbyn y metrigau, bydd yr Ysgrifennydd yn cynnal dadansoddiad ac yn penderfynu a fyddai’r maes pwnc yn elwa fwyaf o Adolygiad byr neu Adolygiad hir. Er enghraifft, os tybir bod gan maes pwnc neu raglen lefel isel o risg yn ôl y data, cynhelir yr Adolygiad ei hun am hanner diwrnod. Fodd bynnag, os yw’r metrigau’n dangos lefel uchel o risg, bydd yr Adolygiad yn para am gyfnod hwy.
Hysbysir y Tîm Addysgu cyn gynted â phosib unwaith y gwneir penderfyniad ynghylch hyd yr Adolygiad.
Pwy sy'n rhan o'r Tîm Adolygu?
Caiff y Tîm Adolygu ei recriwtio gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, ac mae’n cynnwys y bobl ganlynol:
Y Cadeirydd – sef Uwch Academydd nad yw’n gysylltiedig â’r Coleg y mae’r maes pwnc neu’r rhaglen yn rhan ohono. Mae’n gyfrifol am arwain y trafodaethau a chyfeirio’r Ganmoliaeth, yr Argymhellion a’r Gofynion yn ôl i’r Tîm Addysgu ar ddiwedd yr Adolygiad.
Aelodau’r Tîm Adolygu Mewnol – sef dau Academydd nad ydynt yn gysylltiedig â’r Coleg y mae’r maes pwnc neu’r rhaglen yn rhan ohono. Maent yn gyfrifol am gyfrannu at drafodaethau yn ystod yr Adolygiad.
Yr Arbenigwr Pwnc Allanol – sef Uwch Academydd o’r un ddisgyblaeth â’r maes pwnc neu’r rhaglen dan sylw. Caiff ei recriwtio o’r sefydliadau sy’n perfformio orau o ran y ddisgyblaeth ac mae gofyn iddo gyfrannu at y drafodaeth a darparu ymateb ysgrifenedig i’r Ddogfen Hunanwerthuso.
Aelod o’r Tîm Adolygu sy’n Fyfyriwr – sef Cynrychiolydd Myfyrwyr naill ai o’r maes pwnc, y rhaglen neu’r Coleg. Mae gofyn iddo gyfrannu at y trafodaethau a darparu cyd-destun o Safbwynt y Myfyrwyr. Bydd yn gweithio hefyd gyda’r Ysgrifennydd wrth gasglu barn corff ehangach y myfyrwyr.
Yr Ysgrifennydd – sef Swyddog Ansawdd Academaidd o’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd. Mae gofyn iddo gynorthwyo’r Tîm Addysgu, cynghori’r panel, cymryd cofnodion, paratoi’r adroddiad dilynol a monitro’r Cynllun Gweithredu.
O bryd i’w gilydd, os nodir problemau penodol ynghylch addysgu, cyflogadwyedd, cynwysoldeb neu ddarpariaeth Cymraeg, gall y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd wahodd aelod o staff o Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe neu Academi Hywel Teifi, yn ôl eu trefn. Diben hwn yw cynorthwyo’r Tîm Addysgu ymhellach wrth ddatrys y problemau hyn a chynnig cefnogaeth ddilynol.
Pwy y mae’n Rhaid Iddo Ddod o'r Coleg/Ysgol?
Anogir Cyfarwyddwr y Rhaglen i wahodd unrhyw un sy’n cyfrannu at addysgu. Argymhellir y dylai staff gweinyddol fod yn bresennol hefyd.
Gall fod angen i’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, ynghyd â Phennaeth y Coleg o bryd i’w gilydd, ddod ar ddechrau’r Adolygiad i gynorthwyo wrth ddarparu trosolwg o’r Coleg a’i strwythur.
Beth sy'n Digwydd ar ôl Adolygiad?
Caiff y Ganmoliaeth, yr Argymhellion a’r Gofynion eu dosbarthu gan yr Ysgrifennydd o fewn 24 awr ar ôl yr Adolygiad a bydd y ddau olaf ar ffurf Cynllun Gweithredu, y bydd yn rhaid i’r Tîm Addysgu ei gwblhau a’i ddychwelyd i’r Ysgrifennydd o fewn pythefnos.
Bydd yr Ysgrifennydd yn cwblhau’r adroddiad drafft o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl yr Adolygiad, pan gaiff ei ddosbarthu i’r Tîm Adolygu er mwyn iddo gadarnhau ei gywirdeb. Unwaith ei fod wedi’i gadarnhau, caiff ei ddosbarthu i Gyfarwyddwr y Rhaglen, y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu a Phennaeth y Coleg pum niwrnod gwaith yn hwyrach eto ac mae’n bosib y caiff ei ddosbarthu i’r sawl a fydd yn bresennol/aelodau ehangach yr Adran yn ôl disgresiwn Cyfarwyddwr y Rhaglen.
Mae’n rhaid i Gyfarwyddwr y Rhaglen gadarnhau ei fod yn fodlon ar yr adroddiad a dychwelyd y Cynllun Gweithredu i’r Ysgrifennydd o fewn pum niwrnod gwaith, sy’n golygu y dylid cwblhau’r ddwy ddogfen bythefnos ar ôl cynnal yr Adolygiad fan bellaf.
Caiff yr adroddiad a’r Cynllun Gweithredu ei gyflwyno i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd.
Deufis ar ôl yr Adolygiad, bydd y Swyddog Ymgysylltu’n cysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen i holi ynghylch cynnydd y Cynllun Gweithredu a chanfod a fydd angen cymorth ychwanegol ar y Tîm Addysgu wrth gyflawni’r camau gweithredu.
Caiff y broses hon ei hailadrodd bob deufis tan y bydd y camau gweithredu wedi cael eu cwblhau’n llawn.