Adolygiad Blynyddol o Raglenni (APR)

Beth yw Adolygiad Blynyddol o Raglenni?

Mae’r Adolygiad Blynyddol o Raglenni’n broses lle mae holl Gyfarwyddwyr y Rhaglenni’n  myfyrio ar y flwyddyn academaidd flaenorol ac yn ystyried pa welliannau, os o gwbl, y mae angen eu gwneud i’w rhaglenni. Mae’n ymarfer sicrhau ansawdd allweddol sy’n gosod profiad y myfyrwyr ar flaen y gad, ac mae hefyd yn gyfle i Gyfarwyddwyr y Rhaglenni  amlygu arfer da a allai gael ei rannu â chymuned ehangach y Brifysgol.

Cynhelir y broses hon drwy gwblhau ffurflen APR, sy’n cael ei chreu a’i dosbarthu gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.


Pam Rydym yn Cwblhau Adolygiad Blynyddol o Raglenni?

Mae’r Adolygiad Blynyddol o Raglenni yn rhan hanfodol o broses Adolygu Ansawdd integredig, sy’n canolbwyntio ar sicrhau ymagwedd barhaus at fyfyrio a gwella, gan adlewyrchu ymagwedd naturiol academyddion i ‘ddatrys’ materion wrth iddynt godi, ond mae hefyd yn sylfaen dystiolaeth ar gyfer myfyrio, a hefyd yn ysgogi cofnodi a rhannu gwelliant. Nid yw’n hanfodol ar gyfer tystiolaeth fod y Brifysgol yn adolygu ac yn gwella ei darpariaeth yn rheolaidd yn ôl disgwyliadau a dangosyddion Côd Ansawdd Addysg Uwch y DU, ond mae’n agwedd allweddol o wella profiad y myfyrwyr ac ymateb i adborth gan fyfyrwyr a data perfformiad rhaglenni mewn ffordd gyfannol.


Pam a Sut Mae'r Adolygiad Blynyddol o Raglenni yn Cyd-fynd â Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr ar Lefel Pwnc?

Bwriad ffurflen Adolygiad Blynyddol o Raglenni yw cyd-fynd ag adrannau ac iaith Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr ar lefel pwnc, er ei bod wedi’i haddasu ymhellach i sicrhau ei bod yn parhau i adlewyrchu diben craidd yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni. Rydym wedi wynebu nifer o broblemau gyda’r aliniad hwn ac er bod egwyddorion craidd yr aliniad yn gadarn, gwneir rhagor o waith i sicrhau bod y broses yn parhau i adlewyrchu gwelliant.


Beth yw Ffurflen yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni?

Dogfen sy’n cynnwys metrigau defnyddiol a gweledol yw ffurflen yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni er mwyn cynorthwyo gyda hunanfyfyrio a chynorthwyo i nodi materion posib. Gwahoddir Cyfarwyddwyr Rhaglen i roi sylwadau ar y data meincnodi a gyflwynwyd iddynt (myfyrio allanol), a hefyd amlinellu cynlluniau ar gyfer eu rhaglenni yn y dyfodol (myfyrio mewnol).

Rhennir y ffurflen yn bum adran. Adran A – mae’n canolbwyntio ar ddyluniad y cwricwlwm, ac mae’n cyd-fynd yn agos â’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ar lefel pwnc, er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y sefydliad. Darperir data ar amrywiaeth o feysydd, o ddysgu ac addysgu (israddedig yn unig) i gyrhaeddiad ac ystadegau cynnydd, a bydd Cyfarwyddwyr Rhaglen yn gallu adolygu a myfyrio ar y data allweddol hwn, i grynhoi newidiadau y maent yn bwriadu eu gwneud i’w rhaglenni er mwyn gwella profiad y myfyrwyr.

Yn y rhan hon o’r ffurflen, bydd Cyfarwyddwyr Rhaglen yn cael eu gwahodd yn bennaf i roi un neu ddau ymateb i is-adran. Ymateb naratif yw’r cyntaf, a defnyddir hyn pan na ddarparwyd metrigau:

 
Ticiwch un blwch: Arfer effeithiol   Gwella   Pryder  

Gwahoddir Cyfarwyddwyr Rhaglen i roi naratif byr i’r is-adran dan sylw, a chadarnhau a ydynt yn credu bod eu rhaglen yn cynnig ymarfer effeithiol ar gyfer y maes hwn, a oes angen ei wella neu a oes rhywbeth yn peri pryder, lle mae angen camau gweithredu pellach.

Mae’r ail ymateb yn canolbwyntio ar werthuso a dadansoddi’r data a ddarparwyd, lle gwahoddir Cyfarwyddwyr Rhaglen i nodi’r pethau canlynol:

Arfer effeithiol (gan gynnwys effaith ar fyfyrwyr a’r camau gweithredu a gymerwyd yn ystod y flwyddyn) a chamau ar gyfer gwelliant parhaus: Meysydd i’w gwella/pryder (gan gynnwys effaith ar fyfyrwyr a chamau a gymerwyd yn ystod y flwyddyn) a chamau i gywiro hyn:

Sylwer mai lluniau yw’r holl fetrigau ar y ffurflen, a gellir newid eu maint gan Gyfarwyddwyr Rhaglen os bydd angen.

Mae’r ffurflen Ôl-raddedig a Addysgir yn cynnwys data ar gyfer:

  • Nifer y myfyrwyr
  • Nifer y myfyrwyr sy’n cwblhau eu cyrsiau
  • Canlyniadau myfyrwyr
  • Gohiriadau a thynnu’n ôl
  • Cyflogaeth graddedigion

Gwahoddir Cyfarwyddwyr Rhaglen hefyd i fyfyrio ar y metrigau hyn, serch hynny mae’r adran ymateb ychydig yn wahanol i’r hyn a nodir uchod.

Adran B enw’r adran hon yw Gwerthusiad Cyffredinol o’r Rhaglenni, ac mae’n canolbwyntio ar strwythur modiwlaidd, camau gweithredu o brosesau Adolygu Ansawdd eraill, ac ansawdd yr astudio y tu hwnt i Abertawe (os yw’n berthnasol).

Adran C mae’r adran hon yn canolbwyntio ar Wella Ansawdd ac mae’n gyfle i Gyfarwyddwyr Rhaglen amlygu arfer da yn eu rhaglenni.

Yna caiff Cyfarwyddwyr Rhaglen gyfle i fynegi sylwadau eraill yn Adran Ch.

Pumed ran y ffurflen APR yw Cynllun Gweithredu’r Bwrdd Astudiaethau, y dylid ei adolygu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Astudiaethau drwy gydol y flwyddyn i fonitro cynnydd.

Mae templed o’r ffurflen israddedig ar gael yma, ac mae templed ar gyfer y ffurflen Ôl-raddedig a Addysgir ar gael yma.


O ble y Daw'r Data?

Dyma’r prif ffynonellau ar gyfer y data a ddarperir yn y ffurflenni Adolygiad Blynyddol o Raglenni:

  • Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
  • Arolwg Profiad Myfyrwyr
  • Mewnrwyd Prifysgol Abertawe/SITS
  • Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gweithio gyda’r tîm Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau i gaffael a chyflwyno’r data hwn, a darperir diffiniadau data i esbonio sut caiff data ei gyfrifo, i sicrhau ymagwedd gyson.

Ceir canllawiau ar ddata drwy gydol y ffurflen, serch hynny gallwch e-bostio cwestiynau i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd drwy quality@abertawe.ac.uk.

Sylwer y dylai ymholiadau am y data gael eu hanfon at statistics@abertawe.ac.uk.


Sut Caiff y Data ei Gyfrifo a sut Gallaf fod yn Siŵr ei Fod yn Gywir?

Caiff y data ei baratoi drwy’r tîm ystadegau canolog ar y cyd â’r Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol o ddata a gynhelir yn ganolog, gyda’r nod o gyrchu un ffynhonnell o wybodaeth. Er y gall hyn fod yn heriol o ran cynnal grwpiau cyson sy’n cael eu meincnodi’n allanol, ac mewn rhai achosion nid oes data ar gael mewn rhaglenni unigol, rydym yn gweithio’n agos gydag Ystadegau a Chynllunio i sicrhau bod y data mor gywir â phosib.

Rydym yn gofyn i bob maes pwnc wirio’r data a ddarperir cyn gynted â phosib i amlygu unrhyw beth y credant ei fod yn anghyson, ac yna bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ceisio gwirio hyn gyda’r tîm Ystadegau.


Ar ba 'Lefel' y mae'r Data?

Mae’r data ar brif lefel JACS fel sy’n safonol. Mae rhestr o sut mae’r rhaglenni israddedig hyn yn cyd-fynd â’r lefel hon ar safle SharePoint yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni yma. Mae rhestr o sut mae’r raglenni ôl-raddedig wedi’u mapio yma. I weld y rhestrau hyn, rhaid i chi fewngofnodi i Collaborate- eich enw defnyddiwr yw rhan gyntaf eich cyfeiriad e-bost, a’ch cyfrinair yw eich cyfrinair mewngofnodi arferol.

Cyflwynwch geisiadau i gael data ar lefel arall, er enghraifft ar lefel rhaglen, i quality@abertawe.ac.uk.


Beth sy'n Digwydd pan Fyddaf yn Cwblhau'r Ffurflen?

Rhaid i Gyfarwyddwyr Rhaglen gyflwyno ffurflenni wedi’u cwblhau i Fwrdd Astudiaethau’r Maes Pwnc, yna i Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg. Bydd y ffurflenni hefyd yn cael eu cyflwyno i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd quality@abertawe.ac.uk.


Sut mae Myfyrwyr yn Ymgysylltu yn y Broses Adolygiad Blynyddol o Raglenni?

Yn ddelfrydol, dylai Cynrychiolwyr Myfyrwyr fod yn rhan o ysgrifennu’r Adolygiad Blynyddol o Raglenni. Er bod hyn yn gallu bod yn heriol i’w gyflawni, dylai Cynrychiolwyr Myfyrwyr o leiaf gymeradwyo’r cyflwyniadau drwy fod yn bresennol yn y Byrddau Astudio, i sicrhau bod yr ymateb yn crynhoi adborth myfyrwyr, a bod y camau gweithredu’n canolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr.


Beth mae'r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ei wneud â'r Wybodaeth?

Bydd Swyddogion Ymgysylltu â Cholegau’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn adolygu pob ffurflen ac yn cwblhau adroddiad crynhoi ar gyfer pob coleg, sydd yn ei dro’n gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i’w adolygu, er mwyn crynhoi’r prif wybodaeth a materion.

Wrth gwblhau’r adroddiad crynodeb, bydd y Swyddog Ymgysylltu â Cholegau’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn tynnu sylw at unrhyw feysydd mae wedi’u nodi fel pryder a bydd yn trafod y rhain gyda Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Coleg. Gall hyn arwain at ymgysylltu pellach â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd, a allai gynnwys Adolygiad Ansawdd Uwch i ddatrys materion a rhoi rhagor o gymorth.

Bydd y tîm hefyd yn coladu arfer da, ac efallai bydd yn cysylltu â Chyfarwyddwyr y Rhaglen dan sylw i archwilio sut gall yr arfer hwn gael ei rannu gyda gweddill y sefydliad.


A oes Rhaid imi Gwblhau Ffurflen Adolygiad Blynyddol o Raglenni os yw'r maes pwnc yn cael Adolygiad Ansawdd Llawn (Wedi'i Drefnu neu un Uwch)?

Nac oes. Mae’r broses Adolygiad Blynyddol o Raglenni wedi’i chynnwys yn y broses Adolygiad Blynyddol, felly does dim ots pa ran o’r broses rydych yn mynd drwyddi, dim ond unwaith y bydd angen i chi gwblhau’r adrannau perthnasol.


Sut mae'r Adolygiad Blynyddol o Raglenni wedi Newid?

Mae’r ymagwedd newydd at yr Adolygiad Blynyddol o Raglenni’n canolbwyntio ar fyfyrio a gwella parhaus pan fydd y data’n cael ei ryddhau, yn hytrach nag un ffurflen y mae’n rhaid ei chwblhau mewn ffenestr dynn.

Bydd yr ymagwedd hon ar SharePoint, a bydd Cyfarwyddwyr Rhaglen yn cael hysbysiadau ynghylch pan fydd data penodol ar gael a bydd dyddiad cau hefyd o ran pryd bydd yn rhaid cyflwyno naratif ar y data hwn.

Darperir data ar amrywiaeth o feysydd, er enghraifft, rhifau cofrestru, NSS, a DLHE, a bydd yn cynnwys tueddiadau 5 mlynedd pan fyddant ar gael.

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ymroddedig i sicrhau bod Cyfarwyddwyr Rhaglen yn cael y cymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt yn ystod y broses APR, ac mae’r adran yn hyderus y bydd y broses newydd yn arwain at adolygiad, myfyrio a gwelliannau i raglenni hynod effeithiol.

Mae fformat y ffurflen newydd yn syml – gwahoddir Cyfarwyddwyr Rhaglen i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi mynd yn dda ar gyfer eu rhaglenni mewn meysydd penodol, beth nad oedd cystal, a pha gynlluniau sydd ganddynt i wella eu rhaglenni yn y meysydd hyn.

Mae’r ffurflen newydd hefyd yn cynnwys offer a chanllawiau defnyddiol.

Yn olaf, nod yr ymagwedd newydd yw bod yn fwy o sgwrs dwy ffordd, a gwahoddir Cyfarwyddwyr Rhaglen i nodi lle bydd angen cymorth pellach arnynt.


 Phwy y Dylwn Gysylltu os oes Gennyf Broblem?

E-bostiwch gwestiynau i’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd drwy quality@abertawe.ac.uk.

Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn ymrwymedig i roi cymorth dibynadwy i holl staff y Brifysgol, a byddai’r tîm yn hapus i gwrdd â Chyfarwyddwyr Rhaglen yn unigol i drafod y ffurflen Adolygiad Blynyddol o Raglenni, a gallant hefyd drefnu sesiynau galw heibio yn y Colegau ar gais.

Bydd eich Swyddogion Ymgysylltu â’r Coleg dynodedig yn rhoi cyngor a chymorth da i chi cyn, yn ystod ac ar ôl yr elfennau adolygu, a dyma fydd eich prif gyswllt am gymorth.


 

 < Diwygio Rhaglen Astudio Bresennol | Adolygiad Ansawdd >

css.php