Y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni (PCRh)

Beth mae’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni’n ei Wneud?
Rhaid i’r holl raglenni newydd ddilyn proses adolygu a chymeradwyo sy’n sicrhau eu bod yn addas i’w diben ac yn cyrraedd y safonau a bennir gan y Brifysgol ac asiantaethau allanol (gan gynnwys cyrff achredu neu broffesiynol), ac y byddant yn darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yw’r Pwyllgor sy’n cael gorchwyl gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd i adolygu a chymeradwyo pob cynnig newydd am raglen, newidiadau i raglenni a modiwlau traws-sefydliadol newydd neu ddiwygiedig. 

Pryd Fyddai Angen i Raglen gael ei Hadolygu gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Mae angen i’r holl raglenni newydd a diwygiedig gael eu hadolygu gan Bwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Bydd angen i ddiwygiadau i raglenni presennol a rhaglenni a gafodd eu hatal am fwy na dwy flynedd fynd gerbron y Pwyllgor hefyd i sicrhau eu bod yn ateb gofynion yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a’r Brifysgol.

Pwy yw Aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Caiff y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni ei arwain gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni ar y cyd â thri dirprwy, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o staff academaidd a gweinyddol profiadol a hyfforddedig sy’n gweithio ar draws y Brifysgol, gyda chynrychiolwyr o bob Coleg/Ysgol. Hefyd, ceir arbenigwyr penodol mewn rhaglenni dysgu proffesiynol a dysgu seiliedig-ar-waith, rhaglenni cydweithredol a rhaglenni ymchwil ôl-raddedig. Mae myfyrwyr yn aelodau llawn o’r Pwyllgor, ac cael eu dewis o blith Cynrychiolwyr Colegau a Phynciau priodol a hyfforddedig a/ neu o’r Gymuned Adolygu Myfyrwyr. Lle y bo angen, mae Arbenigwyr Pwnc Allanol, Cyflogwyr neu randdeiliaid allanol perthnasol eraill yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Pwyllgor dros dro, gan ddibynnu ar y cynnig sy’n cael ei ystyried. Cefnogir y Pwyllgor gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.

Beth yw Rôl Myfyrwyr yn y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Mae myfyrwyr yn rhanddeiliaid allweddol yn y broses o ddatblygu a chymeradwyo rhaglenni newydd, ac felly maent yn aelodau llawn o’r Pwyllgor ac yn cael hyfforddiant mewn adolygu a chymeradwyo rhaglenni i sicrhau tegwch. Yn benodol, mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn cael gorchwyl i adolygu cynigion dysgu, addysgu ac asesu, cymorth i fyfyrwyr a phrofiad myfyrwyr, ond mae disgwyl iddynt wneud yr un gwaith craffu ag aelodau eraill y Pwyllgor.

Beth fydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni’n ei Adolygu?
Bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn cynnal adolygiad manwl o’r cynnig am raglen yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y modiwlau sy’n rhan o’r rhaglen, dogfennaeth ategol ac unrhyw ddogfennaeth ychwanegol ac adroddiadau sy’n ofynnol, gan gynnwys adroddiadau Diwydrwydd Dyladwy, ac adroddiadau ar Ymweliadau â Safleoedd a chyfleusterau ar gyfer cynigion Cydweithredol.

Sut fydd fy Nghynnig yn cael ei Adolygu?
Bydd aelod academaidd o’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn cael ei aseinio i bob rhaglen a bydd yr aelod hwn yn gweithredu fel adolygwr arweiniol. Bydd yr Adolygwr Arweiniol yn adolygu’r cynnig yn fanwl ac yn arwain cwestiynau’r Pwyllgor, gan gael arweiniad gan y Cadeirydd. Mae’n ofynnol i holl aelodau’r Pwyllgor adolygu’r holl raglenni, felly er mai’r Adolygwr Arweiniol fydd yn cynnal yr adolygiad mwyaf trylwyr, gall yr holl aelodau ofyn cwestiynau am unrhyw agwedd ar y cynnig.

Am Beth fydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn Chwilio?
Bydd aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn ceisio sicrhau bod y rhaglen wedi’i meincnodi’n glir i lefelau perthnasol y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch/FfCaChC, ac yn cyfeirio at Feincnodau Meysydd Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd lle y bo’n briodol. Lle ceir mwy nag un maes pwnc, rhaid bod y rhaglen wedi’i dyfeisio’n dda, yn integredig ac yn gydlynus, a rhaid i’r cynnwys adlewyrchu’r teitl a’r dyfarniad a ddisgwylir. Hefyd, bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn chwilio am Ddeilliannau Dysgu sy’n glir, yn effeithiol ac wedi’u diffinio’n dda ar gyfer y Rhaglen a’r Modiwlau, map cwricwlwm clir, strategaeth asesu effeithiol ac amrywiol a bod yr Aseswr Allanol/Arbenigwr Pwnc Allanol yn fodlon ar ansawdd a safon y cynnwys academaidd. Ar y cyfan, bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn chwilio am raglen a fydd yn darparu profiad eithriadol i fyfyrwyr ac yn darparu profiad dysgu o ansawdd da. Caiff ystod lawn yr hyn y bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn ei adolygu ei disgrifio yn y Rhestri Gwirio Cymeradwyo Rhaglenni.

Beth sy’n Digwydd yn un o Gyfarfodydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Bydd Cynigiwr/Tîm Cynnig y Rhaglen yn cael ei wahodd i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni y bydd eu cynnig yn cael ei adolygu ynddo. Yn ystod y cyfarfod, gofynnir i Gynigiwr y Rhaglen ddarparu trosolwg fer o’r cynnig, ac yna ateb unrhyw gwestiynau a godir gan y Pwyllgor am feysydd y maent hwy o’r farn bod angen rhagor o wybodaeth amdanynt neu eu hegluro’n fwy, dan arweiniad yr Adolygwr Arweiniol. Unwaith y mae’r Pwyllgor wedi cwblhau ei gwestiynau, gofynnir i Dîm y Cynnig adael yr ystafell, tra bo’r Pwyllgor yn trafod y canlyniad. Wedyn gofynnir i Dîm y Cynnig ddychwelyd i drafod unrhyw faterion pellach a adnabuwyd, a chael penderfyniad y Pwyllgor.

Beth yw Rôl Cynigiwr/Tîm Cynnig y Rhaglen yn y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Gwahoddir Cynigiwr/Tîm Cynnig y Rhaglen i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni y bydd eu cynnig yn cael ei adolygu ynddo, a byddant yn cael slot amser penodol (sylwer bod trafodaethau am gynigion blaenorol yn gallu rhedeg yn hwyr o bryd i’w gilydd). Bydd yn ofynnol i Dîm y Cynnig ateb unrhyw gwestiynau am unrhyw agweddau ar y cynnig sy’n ymwneud ag ansawdd academaidd, cynnwys neu brofiad myfyrwyr.

Pwy Ddylai fod yn Rhan o Dîm y Cynnig?
Fel arfer dylai tîm y cynnig gynnwys Cyfarwyddwr y Rhaglen, aelodau o staff o’r maes penodol y mae a wnelo’r cynnig am raglen ag ef, os yw lleoliadau gwaith/opsiynau ar gyfer blwyddyn dramor wedi’u cynnwys yn y cynnig, yr aelod perthnasol o staff ar gyfer y maes hwnnw, ynghyd ag aelod gweinyddol o staff sy’n gysylltiedig â’r adran.

Sut mae’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni’n Sicrhau y bydd Profiad Myfyrwyr yn Cyrraedd y Safonau Gofynnol?
Rôl allweddol y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yw sicrhau ansawdd darpariaeth newydd a sicrhau ansawdd y profiad ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y ddarpariaeth newydd. Bydd y Pwyllgor yn craffu’n fanwl ar yr holl elfennau academaidd o’r rhaglen a’r elfennau ohoni sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, a bydd cynrychiolydd/cynrychiolwyr myfyrwyr y Pwyllgor hefyd yn canolbwyntio ar yr agweddau sy’n ymwneud â phrofiad myfyrwyr. Yn arbennig ar gyfer rhaglenni cydweithredol, bydd y Pwyllgor yn rhoi sylw manwl i’r modd y mae tîm y cynnig yn amcanu at sicrhau profiad tebyg a theg i’r holl fyfyrwyr nad ydynt yn astudio ar Gampws y Bae na Champws y Parc, a sut y bydd y myfyrwyr hyn yn cael mynediad at gyfleusterau, adnoddau a chymorth priodol.

Beth yw Canlyniadau’r Broses Cymeradwyo Rhaglenni?
Unwaith y bydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni wedi adolygu’r cynnig yn fanwl ac wedi dod i gasgliad, bydd yn penderfynu a ddylai’r rhaglen gael ei chymeradwyo ai peidio. Caiff canlyniadau’r broses Cymeradwyo Rhaglenni eu nodi isod. Cymeradwyo Lle mae’r rhaglen yn cwrdd â holl ddisgwyliadau’r Pwyllgor, neu lle mae unrhyw ddiwygiadau’n fân ddiwygiadau, bydd y Pwyllgor yn cymeradwyo’r rhaglen gydag amodau. Mae’n dal yn bosibl i’r Pwyllgor wneud argymhellion ar gyfer gwella’r rhaglen ymhellach. Cymeradwyo gyda Chadarnhadau Lle mae’r rhaglen yn gadarn ar y cyfan ac yn cwrdd â’r rhan fwyaf o ddisgwyliadau’r Pwyllgor, lle mae’n ofynnol gwneud gwaith ychwanegol cyn bod y Pwyllgor yn fodlon bod y rhaglen yn addas i’w darparu, ond lle mae’n hyderus fel arall bod Tîm y Cynnig yn gallu cwblhau unrhyw faterion sy’n dal i fodoli o fewn ffrâm amser ddiffiniedig, yna gall y Pwyllgor ddewis cymeradwyo’r rhaglen yn amodol ar gwblhau cadarnhadau. Rhaid mynd i’r afael â’r holl gadarnhadau a rhaid iddynt gael eu hadolygu’n derfynol gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni cyn y gall y rhaglen gael ei darparu i fyfyrwyr, ond ystyrir bod y rhaglen wedi’i chymeradwyo’n llawn o’r adeg cymeradwyo. Gall y Pwyllgor wneud argymhellion ar gyfer gwella’r rhaglen ymhellach hefyd. Fel arfer dylid mynd i’r afael â chadarnhadau o fewn un mis i gyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni lle caiff y penderfyniad cymeradwyo ei gadarnhau, ond gall y Pwyllgor ganiatáu ffrâm amser hwy gan ddibynnu ar natur y cadarnhadau (e.e. ar gyfer gwaith adeiladu neu recriwtio arfaethedig). Cymeradwyo gydag Amodau Lle mae’r rhaglen yn gadarn ar y cyfan ac yn cwrdd â’r rhan fwyaf o ddisgwyliadau’r Pwyllgor, ond lle mae’n ofynnol gwneud gwaith ychwanegol cyn bod y Pwyllgor yn fodlon cymeradwyo’r rhaglen, yna gall y Pwyllgor ddewis cymeradwyo’r rhaglen gydag amodau. Rhaid mynd i’r afael â’r holl amodau a rhaid iddynt gael eu hadolygu’n derfynol gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni cyn y gellir ystyried bod y rhaglen yn addas i gael ei chymeradwyo’n llawn. Gall y Pwyllgor wneud argymhellion ar gyfer gwella’r rhaglen ymhellach hefyd. Rhaid mynd i’r afael â’r amodau o fewn un mis i’r digwyddiad Cymeradwyo er mwyn sicrhau na cheir oedi diangen cyn lansio’r rhaglen. Peidio â Chymeradwyo: Atgyfeirio at y Coleg Os nad yw’r rhaglen yn mynd i’r afael â’r materion allweddol (a ddylai fod yn brin iawn oherwydd y cam craffu cychwynnol) yna bydd y Pwyllgor yn ei hatgyfeirio’n ôl at y Coleg sy’n ei chynnig gydag ystod o argymhellion ar gyfer ei gwella. Gan ddibynnu pryd y bydd hyn yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd, gall y Pwyllgor benderfynu hefyd na all y rhaglen redeg a bod rhaid oedi cyn ei lansio, a fydd yn amlwg yn effeithio ar gynlluniau recriwtio ac y dylid ei osgoi lle bynnag y bo’n bosibl.

Beth ydw i’n ei Wneud os yw’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni’n Cymeradwyo’r Rhaglen yn Amodol ar Gadarnhadau?
Os oes cadarnhadau’n gysylltiedig â chymeradwyo eich rhaglen, rhaid mynd i’r afael â’r rhain yn llawn a rhaid cael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni cyn y gall y rhaglen gael ei darparu ar gyfer myfyrwyr. Lle mae cadarnhadau wedi’u pennu, byddant wedi’u diffinio o fewn y System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni neu drwy Ffurflen Ymateb i Amodau/Cadarnhadau (fel y bo’n briodol), a bydd ymatebion llawn a seiliedig-ar-dystiolaeth yn ofynnol, y gallant olygu bod gwelliannau pellach yn ofynnol i ddogfennaeth y cynnig. Nid yw cadarnhadau’n effeithio ar gymeradwyo’r rhaglen, ond oni bai yr ymdrinnir â hwy gall y Pwyllgor dynnu’r gymeradwyaeth yn ôl ar unrhyw adeg i ddiogelu profiad myfyrwyr, a all achosi niwed i enw da’r Brifysgol a niwed ariannol iddi. Sylwer: mae cyflawni cadarnhadau’n un o’r gofynion ar gyfer darparu.

Beth ydw i’n ei Wneud os yw’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn Cymeradwyo’r Rhaglen Gydag Amodau?
Os oes amodau’n gysylltiedig â chymeradwyo eich rhaglen, rhaid mynd i’r afael â’r rhain yn llawn a rhaid cael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni cyn y gellir ystyried bod rhaglen wedi’i chymeradwyo a’i bod felly’n gallu cael ei darparu ar gyfer myfyrwyr. Lle mae amodau wedi’u pennu, byddant wedi’u diffinio o fewn y System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni neu drwy Ffurflen Ymateb i Amodau (fel y bo’n briodol), a bydd ymatebion llawn a seiliedig-ar-dystiolaeth yn ofynnol, a gallant olygu bod gwelliannau pellach yn ofynnol i ddogfennaeth y cynnig. Ni all rhaglen â chymeradwyaeth amodol gael ei marchnata a mynd ati’n ffurfiol i recriwtio myfyrwyr nes ymdrinnir â’r amodau a bod y rhaglen wedi cael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Sylwer: mae cyflawni cadarnhadau’n un o’r gofynion ar gyfer darparu.

Beth yw’r Ffrâm Amser ar gyfer Cwblhau’r Amodau/Cadarnhadau a Bennwyd gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Dylai’r Ffurflen Ymateb i Amodau/Cadarnhadau gael ei chwblhau a’i dychwelyd at Ysgrifennydd y Pwyllgor o fewn un mis i gyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni y rhoddwyd cymeradwyaeth amodol ynddo, neu’r ffrâm amser ar gyfer cwblhau a nodwyd ar y Ffurflen Ymateb i Amodau/Cadarnhadau. Rhaid i unrhyw ddiwygiadau i fanyleb y rhaglen neu ddogfennau cysylltiedig sy’n deillio o hynny gael eu gwneud o fewn y ffrâm amser trwy’r system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni ar-lein hefyd. Sylwer: mae cyflawni Amodau/Cadarnhadau yn un o’r gofynion ar gyfer darparu.

Beth ydw i’n ei Wneud os yw’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn Gwneud Argymhellion ar gyfer Gwella?
Os yw’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn gwneud unrhyw argymhellion ar gyfer gwella eich rhaglen, rhaid mynd i’r afael â’r rhain, a rhaid i’ch ymateb gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni. Bydd argymhellion wedi’u diffinio o fewn y System Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni neu drwy Ffurflen Ymateb i Amodau/Argymhellion (fel y bo’n briodol), a gallant olygu bod gwelliannau pellach yn ofynnol i ddogfennaeth y cynnig. Dylid mynd i’r afael ag argymhellion o fewn tri mis i gyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni y cafodd y rhaglen ei chymeradwyo ynddo.

Beth yw’r Ffrâm Amser ar gyfer Ymateb i Unrhyw Argymhellion ar gyfer Gwella a Wnaed gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Dylai’r Ffurflen Ymateb i Argymhellion gael ei chwblhau a’i dychwelyd at Ysgrifennydd y Pwyllgor o fewn tri mis i gyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni y gwnaed y penderfyniad cymeradwyo ynddo. Dylid nodi ar y ffurflen pa gamau y mae Tîm y Cynnig wedi’u cymryd tuag at fynd i’r afael â’r argymhellion ar gyfer gwella neu, os nad yw’r tîm yn teimlo bod angen mynd i’r afael ag argymhellion, y rhesymau pam ei fod yn meddwl hynny. Sylwer: Mae’n ofynnol ymateb i’r holl amodau. Nid oes disgwyl i chi weithredu’r holl argymhellion er mwyn i gymeradwyaeth gael ei rhoi. 

Beth ydw i’n ei Wneud os nad yw’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn Cymeradwyo fy Rhaglen?
Mae hyn yn hynod anarferol ac anaml iawn y mae’n digwydd, gan fod y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd a’r Colegau’n cydweithio’n agos gyda’r timau Datblygu Rhaglenni i sicrhau bod cynigion am raglenni newydd yn wynebu’r siawns orau o lwyddo. Fodd bynnag, mae’n dal yn bosibl na fydd y cynnig yn ddigon da i argyhoeddi’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni y bydd y rhaglen yn gallu darparu’r lefel o brofiad ar gyfer myfyrwyr sy’n ofynnol. Os nad yw eich rhaglen yn cael ei chymeradwyo, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn quality@abertawe.ac.uk a bydd y tîm yn asesu unrhyw wendidau yn y rhaglen ac yn eich cynorthwyo i gywiro’r materion hyn. Unwaith yr ydych wedi mynd i’r afael â hwy, gall y cynnig gael ei ailgyflwyno i gael ei ailystyried gan y Pwyllgor. 

Beth yw Achosion Tebygol Methiant i Sicrhau Cymeradwyaeth i’r Rhaglen?
Er mai anaml y mae hyn yn digwydd, mae wedi digwydd ar adegau bod cynigion am raglenni ddim yn ddigon da, neu heb gael eu mireinio ddigon, i gael eu cymeradwyo ar yr ymgais cyntaf. Rhaid i’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni fod wedi’i sicrhau bod y rhaglen fel y caiff ei chynnig yn y ddogfennaeth yn gallu darparu’r lefel o brofiad ar gyfer myfyrwyr a ddisgwylir. Prif achosion methu â chael cymeradwyaeth i raglen yw:

  • Dogfennaeth anghyflawn neu annigonol
  • Dogfennaeth wedi’i rhuthro a/neu ddogfennaeth wedi’i chyflwyno’n hwyr
  • Diffyg ymgysylltu â’r broses neu arbenigedd perthnasol yn ystod gwaith datblygu
  • Risg mawr a/neu gynigion wedi’u hystyried yn wael
  • Diffyg cynllun wrth gefn ar gyfer achosion pan fo pethau’n mynd o’i le (yn anad dim mewn rhaglenni Cydweithredol)

Beth sy’n Digwydd ar ôl i’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni Gymeradwyo Rhaglen?
Unwaith y mae’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni wedi argymell bod rhaglen yn cael ei chymeradwyo (a bod unrhyw amodau wedi cael eu bodloni), bydd tîm y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn cymryd y camau canlynol i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chymeradwyo’n llawn:

  • Cwblhau camau cymeradwyo priodol ar y system Cymeradwyo a Rheoli Rhaglenni
  • Hysbysu’r Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r rhaglen newydd
  • Sicrhau bod y codau Rhaglen ac UCAS perthnasol wedi cael eu sefydlu, a bod y rhaglenni wedi’u rhestru yn y Catalog Rhaglenni
  • Sicrhau bod y tag ‘yn amodol ar gymeradwyaeth’ yn cael ei ddileu o unrhyw ddeunydd a thudalennau gwe hyrwyddo (lle y bo’n ofynnol)
  • Sicrhau bod y rhaglen newydd yn cael ei chynnwys yn y ffurflen Set Wybodaeth Allweddol (lle y bo’n berthnasol)
  • Sefydlu’r Broses Adolygu Ansawdd

Hefyd, bydd yn ofynnol i Gyfarwyddwr y Rhaglen gymryd ystod o gamau i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei hyrwyddo’n briodol, bod y seilwaith dysgu wedi’i sefydlu a bod y rhaglen yn recriwtio myfyrwyr. 


Canllawiau i Aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni Sut Allaf ddod yn Aelod o’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?

Gall y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni gyfethol aelodau fel y bo’n ofynnol i sicrhau bod arfer da’n cael ei rannu ac i gynnig y cyfle i staff ddatblygu sgiliau mewn adolygu a chymeradwyo rhaglenni. Fel arfer caiff aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni eu henwebu gan Benaethiaid Colegau, a chaiff yr aelodaeth ei hadolygu’n flynyddol i sicrhau bod aelodaeth gytbwys ar draws pob Coleg/Ysgol. Hefyd, caiff rhai aelodau o’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni eu penodi oherwydd rôl benodol, megis arbenigedd mewn darpariaeth gydweithredol, ymchwil ôl-raddedig neu raglenni proffesiynol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuni â’r Rhaglen Cymeradwyo Rhaglenni, anfonwch neges e-bost i quality@abertawe.ac.uk.

Beth yw fy Rôl fel Aelod o’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni?
Fel aelod o’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni, mae gennych rôl allweddol o ran sicrhau ansawdd a safonau ymchwil a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig ar draws y sefydliad, ac o ran sicrhau bod myfyrwyr sy’n cofrestru ar raglenni newydd yn cael profiad rhagorol. Y dyletswyddau allweddol yw mynychu cyfarfodydd (nid pob cyfarfod), a chynnal adolygiadau o gynigion am raglenni ac unrhyw ddiwygiadau i raglenni presennol. Mewn rhai achosion gellir gofyn i aelodau weithredu fel Adolygwyr Arweiniol.

Faint o Waith fydd Disgwyl i mi ei Gwblhau wrth Adolygu Rhaglen?
Mae gwaith aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn amrywio, ond ar y cyfan mae’n golygu darllen trwy’r cynigion am raglenni ar gyfer pob cyfarfod y byddwch yn bresennol ynddo, a bod yn barod i gwestiynu tîm y rhaglen i sicrhau bod y Pwyllgor yn gallu sicrhau ansawdd y cynnig a’r cynnwys academaidd. Ar y cyfan, mae cyfarfodydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn gyfyngedig i ystyried tri chynnig, neu grwpiau o gynigion (lle gall fod fersiynau llawn-amser a rhan-amser, neu lefelau cymwysterau gwahanol o fewn yr un maes pwnc). Mae hefyd o fudd bod aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn mynychu sesiynau hyfforddi i roi iddynt yr offer i adolygu rhaglenni’n effeithiol. Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gweithio gyda Cholegau i sicrhau bod cynigion yn cael eu cyflwyno i’w hadolygu mewn da bryd, a’r bwriad yw bod papurau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn cael eu rhyddhau i’w hadolygu o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.

Beth yw fy Rôl i fel Adolygwr Arweiniol?
Caiff Adolygwyr Arweiniol eu penodi i adolygu cynnig am raglen yn fanwl ac arwain y broses o gwestiynu Tîm y Cynnig yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni, yn unol â chyfarwyddiadau’r Cadeirydd. Mae’r rôl hon yn helpu i sicrhau bod pob rhaglen yn cael ei hadolygu’n fanwl, ac yn helpu holl aelodau’r Pwyllgor i rannu’r cyfrifoldeb am adolygu.

Beth yw fy Rôl fel Cynrychiolydd Myfyrwyr?
Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn cyflawni rôl allweddol o ran adolygu a chymeradwyo rhaglenni. Mae rôl y cynrychiolydd myfyrwyr yr un fath ag aelodau eraill y Pwyllgor, sef adolygu’r cynnig am raglen newydd i sicrhau bod y rhaglen yn addas i’w diben, ei bod yn cyrraedd safonau allanol a mewnol ac y bydd yn darparu profiad rhagorol ar gyfer myfyrwyr. Yn arbennig, mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn cael gorchwyl i ystyried y rhaglen o safbwynt myfyrwyr, er mwyn sicrhau bod y dysgu a’r addysgu, y cymorth a’r profiad ar gyfer myfyrwyr ar y cyfan yn debygol o gyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir gan y Brifysgol. Mae canllaw llawn i fyfyrwyr ynghylch adolygu rhaglenni newydd ar gael yma. Yn ogystal, bydd y tîm Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn gallu darparu cefnogaeth a hyfforddiant cyffredinol a theilwra i chi.

Faint o Gynigion am Raglenni fydd y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn eu Hadolygu ym Mhob Cyfarfod?
Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn gallu craffu’n briodol ar gynigion am raglenni, bydd yn adolygu dim mwy na 3 chynnig ar y cyfan (ar gyfer rhaglenni newydd neu ddiwygiedig) ym mhob cyfarfod. Bydd Adolygwr Arweiniol yn cael ei aseinio i bob rhaglen.

A oes Hyfforddiant ar gael i Aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni??
Mae’r Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn darparu nifer o sesiynau hyfforddi ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni i’w cynorthwyo i adolygu a sicrhau ansawdd rhaglenni newydd. Ceir gwybodaeth ar wefan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd.

 

< Proses Cymeradwyo Rhaglenni | Y Cam Cymeradwyo: Ar ôl Cymeradwyo >

css.php