Datblygu Portffolio Rhaglenni’r Brifysgol

Beth yw Portffolio Rhaglenni’r Brifysgol?

Mae gan y Brifysgol lond gwlad o wahanol raglenni y gall myfyrwyr ymgeisio am le arnynt ar bob lefel astudio ac ym mhob Coleg. Gyda’i gilydd, y rhaglenni hyn yw portffolio rhaglenni’r Brifysgol. Mae’r portffolio hwn yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn gallu cynyddu lefelau recriwtio i’r eithaf a rheoli ei chynnig i fyfyrwyr yn effeithiol, gan fynd i’r afael â newidiadau o ran y galw yn y farchnad.


Sut y mae’r Brifysgol yn Penderfynu pa Raglenni Ddylai Gael eu Datblygu i Wella’i Bortffolio?

Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn crynhoi data recriwtio allweddol gan yr Awdurdod Safonau Addysg Uwch ac o ffynonellau eraill sy’n ei galluogi i ddadansoddi marchnadoedd byd-eang a thueddiadau recriwtio cenedlaethol dros amser ar draws pob maes pwnc. Trwy driongli’r data hwn â gwybodaeth gan asiantau rhyngwladol, cyrff proffesiynol ac asiantaethau allanol eraill (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) a gweithio gydag arbenigwyr mewn Colegau, mae’r Brifysgol yn datblygu rhestr o feysydd pwnc neu raglenni i’w datblygu mewn modd wedi’i dargedu. Caiff y rhestr hon ei chytuno gyda Cholegau trwy Gynllunio Busnes a’i chyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Rhaglenni i’w hadolygu a’i chymeradwyo, gan greu Cynllun Datblygu Portffolio Strategol y Brifysgol.

Yn y ffordd hon, mae’r Brifysgol yn amcanu at ganolbwyntio adnoddau ar raglenni sydd fwyaf tebygol o wella cyfraddau recriwtio a/neu uchelgeisiau strategol a lleihau nifer y rhaglenni nad ydynt yn recriwtio’n dda.


Beth sy’n Goleuo Dull Datblygu Rhaglenni’r Brifysgol?

Caiff dull strategol y Brifysgol o ddatblygu rhaglenni ei oleuo gan Arweiniad i-MAP Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr Innovation in the Market Assurance of New Programmes sydd ar gael yn http://www.i-map.org.uk/.


Pam fod y Brifysgol wedi Rhoi’r Arweiniad i-MAP ar Waith?

Mae’r Brifysgol wedi canfod bod dull mwy strategol o ddatblygu rhaglenni’n ofynnol i atal lluosogiad nifer fawr o raglenni â chyfraddau recriwtio myfyrwyr isel (yn anad dim ar lefel rhaglenni ôl-raddedig a addysgir) ac i ganolbwyntio ymdrechion ar ddarparu rhaglenni a fydd yn hybu twf ac incwm y Brifysgol. Yn dilyn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2012 a’i ddiweddaru yn 2015, aeth y Brifysgol ati i adolygu’r dadansoddiad a’r argymhellion ynddo, a rhoi’r argymhellion ar waith yn ei phrosesau ei hun, sef:

‘“llwyddiant cyflym” yn hynod ragfynegol o lwyddiant parhaus. Yn groes i’r canfyddiad cyffredin, bu dechrau gyda lefelau isel iawn o dderbyniadau gan dyfu i niferoedd ymarferol yn anghyffredin.’

Mae’n amlwg na all y Brifysgol fforddio gwastraffu adnoddau ar ddatblygu rhaglenni nad ydynt yn recriwtio’n gryf, ac felly mae adolygiad hyfywedd llawn o’r holl gynigion newydd wedi cael ei gyflwyno i liflinio ac alinio datblygiad â nodau strategol y Brifysgol.


Sut Allaf Ganfod pa Feysydd Pwnc sy’n Recriwtio Myfyrwyr?

Bob blwyddyn, mae’r Uned Ystadegau a’r tîm Recriwtio Myfyrwyr yn llunio adroddiadau sy’n seiliedig ar ddata cenedlaethol yr Awdurdod Safonau Addysg Uwch sydd ar gael i Golegau ac a adolygir yn ganolog ar ran y Bwrdd Rheoli Rhaglenni. Cyflwynir adroddiad penodol i bob Coleg i helpu i oleuo datblygiad a chynllunio busnes, sy’n darparu tueddiadau recriwtio mewn meysydd pwnc perthnasol yn genedlaethol, ar gyfer myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae’r adroddiad hefyd yn darparu data cymharol ar gyfer Abertawe, i alluogi Colegau i benderfynu a oes cyfle i wella cyfraddau recriwtio ar gyfer rhaglenni presennol.


Beth yw strategaeth y Brifysgol ar gyfer Datblygu Rhaglenni?

Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gyflawni twf cyflymach gyflymach yn niferoedd y myfyrwyr i 25,000 erbyn 2025, ac ar ôl cynyddu i’r eithaf y cyfraddau recriwtio i lawer o’i rhaglenni presennol, mae wrthi’n archwilio cyfleoedd i ddatblygu meysydd pwnc, rhaglenni a dulliau darparu newydd a fydd yn cynyddu ac yn cynnal cyfradd y twf ar y cyfan. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol yn archwilio’r potensial ar gyfer ehangu i faes dysgu ar-lein a dysgu o bell, ar y cyd â darpariaeth dramor trwy bartneriaethau addysg trawswladol.


 

Cam y Cysyniad >

css.php