Rheoli a Gwella’r Portffolio a Rhaglenni

Dylai’r holl raglenni newid dros amser i ddilyn ymchwil, pynciau, tueddiadau a newidiadau allanol presennol (megis gofynion Cyrff Proffesiynol); ac efallai’n bwysicach na dim, newidiadau i’r galw yn y farchnad gan fyfyrwyr a chyflogwyr er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n parhau i recriwtio. Os nad yw rhaglenni’n recriwtio’n effeithiol, gall fod yn rhaid eu gohirio neu eu tynnu’n ôl ond gall sicrhau bod eich rhaglen cystal â phosib ar bob adeg sicrhau y bydd yn parhau i lwyddo.

I alluogi newidiadau i raglenni heb ymgymryd â phroses ail-gymeradwyo gyflawn, mae’r brifysgol yn caniatáu i agweddau penodol gael eu newid – dyma’r broses ‘Diwygio Rhaglen Bresennol’. Goruchwylir y broses hon gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, ond fe’i rheolir gan y Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a Phwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg/y Pwyllgor Ymchwil. Fel yn achos yr holl agweddau ar ddylunio ac adolygu’r rhaglen, dylai myfyrwyr a chyflogwyr fod yn rhan o’r holl broses

 

< Meysydd Cyfrifoldeb | Datblygu, Adolygiad a Gwella’r Modwil >

css.php