Adolygu Partneriaethau Cydweithredol

Yn dilyn cymeradwyaeth i gyflwyno pob rhaglen gydweithredol dylai Cyd-fwrdd Astudiaethau gael ei sefydlu rhwng y partneriaid sy’n cydweithio i oruchwylio’r rhaglen. Dylai’r Cyd-fwrdd Astudiaethau gwrdd o leiaf unwaith, ond gorau oll os ydynt yn cwrdd ddwywaith, y flwyddyn.

Fel arfer bydd y Cyd-fwrdd Astudiaethau’n cynnwys aelodau o staff addysgu, goruchwyliol ac o bosibl gweinyddol o Brifysgol Abertawe a’r partneriaid sy’n cydweithio. Prif swyddogaeth Cyd-fwrdd Astudiaethau yw monitro cynnydd academaidd a gweinyddol y rhaglen. Bydd ei amodau gorchwyl a’i ddyletswyddau fel a ganlyn:

  • Sicrhau bod safonau sicrhau ansawdd y sefydliad dyfarnu’n cael eu cynnal a bod mecanweithiau sicrhau ansawdd priodol yn cael eu gweithredu;
  • Ystyried canlyniadau’r prosesau adolygu modiwlau, monitro rhaglenni ac adborth myfyrwyr yn flynyddol;
  • Cymeradwyo diwygiadau i strwythur/maes llafur/trefniadau asesu’r rhaglen a chyfeirio’r addasiadau hynny at Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r Coleg cartref;
  • Cael gwybodaeth am newidiadau i staff, adnoddau addysgu, adnoddau ffisegol a thechnegol a.y.b. y rhaglen, a chyflwyno unrhyw argymhellion i’r cyrff a nodir isod o ganlyniad i’r newidiadau hynny;
  • Cael ac ystyried adroddiadau gan Gydlynwyr Rhaglenni sy’n ymwneud â datblygu’r rhaglen dan sylw, a ddylai gynnwys gwybodaeth ystadegol am asesu, dilyniant a chwblhau fel y bo’n briodol;
  • Gwneud enwebiadau ar gyfer penodi Arholwyr Allanol a chael adroddiadau Arholwyr a (lle y bo’n briodol) Chymedrolwyr Allanol;
  • Ystyried pa bynnag faterion a gaiff eu hatgyfeirio o bryd i’w gilydd at y Cyd-fwrdd Astudiaethau naill ai gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd, neu gan y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau neu gyrff cyfatebol cysylltiedig y sefydliadau partner neu unrhyw gyrff proffesiynol neu gyrff achredu cysylltiedig.

Yn nodweddiadol, mae partneriaeth gydweithredol yn cael ei hadolygu ym mlwyddyn olaf ond un y cyfnod cytundebol. Bydd natur a maint yr adolygiad yn dibynnu ar natur y cydweithio a bydd y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn defnyddio dull seiliedig ar risg i benderfynu ar faint yr adolygiad. Ar ei fwyaf cyfyngedig, bydd yn golygu bod panel bach sy’n cynnwys Cadeirydd a thrawsgynrychiolaeth o’r Bwrdd Partneriaethau Cydweithredol a’r Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni yn adolygu’r ddogfennaeth ganlynol, fel gofyniad lleiaf:

  • Y Memorandwm Cytundeb cyfredol;
  • Unrhyw hysbysiad rhag blaen o newidiadau i’r Memorandwm Cytundeb (os yw’n mynd i gael ei adolygu);
  • Cofnodion Byrddau Astudiaethau (tair blynedd o gofnodion);
  • Manylebau modiwlau;
  • Adborth myfyrwyr;
  • Adroddiadau Blynyddol;
  • Adroddiadau/cofnodion consortiwm (os yn briodol);
  • Llawlyfr y Rhaglen;
  • Adroddiadau ariannol.

Ar eu mwyaf helaeth, yn ychwanegol at y ddogfennaeth uchod, gall fod angen i’r Panel gynnal ymweliad â safle’r partner cydweithredol.

Trefnir yr adolygiad gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd gyda mewnbwn gan y Coleg perthnasol/yr Ysgol berthnasol a’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd a/neu’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, fel y bo’n briodol.

< Cytundebau | Meysydd Cyfrifoldeb >

css.php