Cytundebau

Beth yw Datganiad o Fwriad?

Dogfen swyddogol yw Datganiad o Fwriad sy’n datgan yr hyn y mae’r partïon â buddiant yn bwriadu ei wneud, ond nad oes ganddi’r un grym cyfreithiol â chontract ffurfiol.


Beth yw Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth?

Cytundeb nad yw’n rhwymo rhwng dau barti neu fwy sy’n nodi telerau a manylion dealltwriaeth, gan gynnwys gofynion a chyfrifoldebau pob parti, yw Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Yn aml Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw’r cam cyntaf wrth lunio contract ffurfiol.


Beth yw Memorandwm Cytundeb?

Mae Memorandwm Cytundeb yn ffurfioli trefniant cydweithio gyda phartner. Mae Memorandwm Cytundeb yn gweithredu fel dogfen gyfreithiol ac yn disgrifio telerau a manylion y cytundeb partneriaeth. Mae’r Cytundeb yn nodi telerau’r trefniant ar gyfer rheoli a monitro’r fenter cydweithio. 


Beth yw Cytundeb Lefel Gwasanaeth?

Cytundeb Lefel Gwasanaeth yw’r rhan o gontract sy’n diffinio yn union pa wasanaethau y bydd darparwr gwasanaethau’n eu darparu a’r lefel neu’r safon ofynnol ar gyfer y gwasanaethau hynny.


 

< Asesu a Rheoli Risg | Adolygu Partneriaethau Cydweithredol >

css.php