Asesu a Rheoli Risg

Mae rhyngwladoli AU wedi arwain at nifer bythol gynyddol o gyfleoedd ar gyfer partneriaethau. Fodd bynnag, gall rhagor o gyfleoedd olygu risgiau mwy. Mae’n hanfodol bod staff yn cynnal ymholiadau diwydrwydd dyladwy ar bartneriaid i gynyddu i’r eithaf fanteision addysgol a busnes cydweithio rhyngwladol a, hefyd, i osgoi peryglon cyffredin sy’n gysylltiedig â gweithgareddau o’r fath. Gall ymddangos bod diwydrwydd dyladwy’n mynd â llawer o amser ac yn costio’n ddrud heb fod angen ar ddechrau partneriaeth addawol, ond bydd yn helpu’r Brifysgol i osgoi ymrwymiadau cyfreithiol rhwymol sy’n gallu creu costau parhaus sylweddol os nad ydynt yn cael eu llunio, eu strwythuro a’u dogfennu’n briodol. Byddai partneriaid posibl yn disgwyl i ymholiadau diwydrwydd dyladwy gael eu cynnal gan fod hyn yn arfer gorau ac effeithiol yn y sector AU. Felly mae diwydrwydd dyladwy er lles y ddau barti/pob parti sy’n rhan o’r cytundeb, ac – yn enwedig – y myfyrwyr a gaiff eu recriwtio i’r rhaglenni a gynigir gennym trwy ein partneriaethau. Mae diwydrwydd dyladwy yn ymarfer a gynhelir gan y ddwy ochr fel arfer: byddwch yn barod i ddarpar bartner ofyn am wybodaeth debyg gennym ni fel rhan o’u proses diwydrwydd dyladwy hwy eu hunain. Os yw partneriaid tramor yn anghyfarwydd â diwydrwydd dyladwy ac yn cwestiynu’r angen i ddarparu gwybodaeth o’r fath, gallwn eu sicrhau fel a ganlyn:

  • Ei fod yn un o ofynion corff sicrhau ansawdd sector AU y DU, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd;
  • Y bydd yn galluogi’r partneriaid i ddeall ei gilydd yn llawn, osgoi camddealltwriaeth a rheoli’r cydweithio yn y ffordd orau bosibl, er budd myfyrwyr;
  • Bydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau cyfredol;
  • Yn gyfnewid, bydd y Brifysgol yn cyfranogi’n llawn yn ymholiadau diwydrwydd dyladwy’r partner posibl ei hun.

Ymweliadau â Safleoedd

Ceir disgwyliad y byddai ymweliad â safle unrhyw bartner posibl yn cael ei gynnal cyn y byddai’r Brifysgol yn anfon myfyrwyr ar raglenni symudedd allanol i gynnal Dyletswydd Gofal y Brifysgol tuag at ei myfyrwyr a bydd dull seiliedig-ar-risg yn cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae o’r pwys mwyaf sicrhau cydraddoldeb o ran y profiad ar gyfer myfyrwyr. Byddai  adroddiad ar ymweliad â’r safle (templed ar gael gan y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd) yn rhan o ddogfennaeth ategol y broses diwydrwydd dyladwy. Gallai’r ymweliad â’r safle gael ei gynnal gan aelod o staff academaidd neu gynrychiolydd y Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd neu’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, fel y bo’n briodol.

A fydd Asesiad Risg yn Ofynnol?
Caiff asesiad risg ei gynnal gan Golegau/Ysgolion/y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd (gan ddibynnu ar natur y cydweithio) ar yr holl gynigion i asesu lefel y risg sy’n gysylltiedig â’r sefydliad partner a threfniadau partneriaeth arfaethedig. Byddai mentrau sydd â risg mwy yn gysylltiedig â hwy a phrosiectau mwy yn golygu cyswllt pellach ag Adran Cydnerthedd a Pharhad Busnes y Brifysgol a’r Uned Cynllunio a Phrosiectau Strategol.

Beth yw Diwydrwydd Dyladwy Academaid?
Mae diwydrwydd dyladwy academaidd yn ystyried ansawdd ac enw da academaidd y partner arfaethedig ac fe’i defnyddir i benderfynu a oes ganddynt y pwerau dyfarnu gradd, yr adnoddau addysgu ac ymchwil a’r gallu angenrheidiol i ddarparu profiad cydradd ar gyfer myfyrwyr i allu bod yn rhan o’r fenter cydweithio. Dylai diwydrwydd dyladwy academaidd gael ei gynnal gan y Coleg perthnasol/yr Ysgol berthnasol (neu’r tîm ymweld â safleoedd, a all gynnwys y GPA/GAA) a bod wedi’i deilwra i natur y cydweithio arfaethedig. Caiff y meysydd canlynol ar gyfer craffu eu nodi yn y ddogfen International Partnerships: A Legal Guide for UK Universities:

  • Gofynion achredu yn y diriogaeth sy’n berthnasol i’r bartneriaeth bosibl;
  • Nifer, cymwysterau, arbenigedd a chapasiti staff academaidd, staff gweinyddol a staff cymorth allweddol ar gyfer gweithredu’r bartneriaeth a threfniadau i recriwtio staff ychwanegol lle y bo’n ofynnol;
  • Nifer, cymwysterau, arbenigedd a chapasiti staff academaidd ar gyfer cyflawni gweithgarwch marchnata/ recriwtio myfyrwyr/addysgu/ymchwil yn ôl y trefniadau partneriaeth a ragwelir;
  • Argaeledd ac ansawdd cyfleusterau a deunyddiau (ymchwil, labordai, lleoliadau addysgu, mynediad at lyfrgelloedd, llety, cyfleusterau TG ar gyfer myfyrwyr a chyflogeion, lles myfyrwyr);
  • Y broses recriwtio a meini prawf dethol ar gyfer myfyrwyr sy’n cyfranogi (os oes rhai);
  • Safonau academaidd a meini prawf a gweithdrefnau asesu ac arholi;
  • Cymwysterau ieithyddol aelodau allweddol o’r gyfadran, cyflogeion a myfyrwyr;
  • Trefniadau sicrhau ansawdd;
  • Profiad blaenorol y partner arfaethedig o bartneriaethau â phrifysgolion eraill yn y DU ac argaeledd geirdaon academaidd annibynnol.

Beth yw Diwydrwydd Dyladwy Cyfreithiol?
Mae diwydrwydd dyladwy cyfreithiol yn hanfodol ar gyfer pob menter cydweithio. Fodd bynnag, bydd ei natur a’i faint yn dibynnu ar risg y prosiect. Mae diwydrwydd dyladwy cyfreithiol yn golygu canfod pŵer ac awdurdod sefydliadau eraill i gymryd rhan yn y fenter cydweithio a chanfod unrhyw faterion cyfreithiol a allai amharu ar y prosiect, neu barodrwydd Prifysgol Abertawe i weithio gyda’r sefydliad arall. Byddai maint y gwaith diwydrwydd dyladwy sy’n angenrheidiol yn dibynnu ar natur y cydweithio arfaethedig. Byddai mentrau â mwy o risg a phrosiectau mwy yn golygu cyswllt pellach â Thîm Gwasanaethau Cyfreithiol y Brifysgol.

Cydymffurfio ag UKVI
Fel rhan o ymholiadau diwydrwydd dyladwy, bydd statws Haen 4 (a Haen 2, os yn briodol) y partner/cynnig yn cael ei gadarnhau. Byddir yn ymchwilio hefyd i unrhyw faterion sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth fisa Haen 4 (a Haen 2) UKVI.

Beth yw Cydymffurfiaeth Haen 4 UKVI?
Haen 4 o’r System Seiliedig ar Bwyntiau yw’r prif lwybr mewnfudo ar gyfer myfyrwyr o’r tu allan i’r AEE sy’n dymuno astudio’n llawn-amser yn y DU. Rhaid bod y myfyrwyr hyn yn cael eu noddi gan ddarparwr addysg sy’n meddu ar drwydded Haen 4. Caiff y darparwr addysg ei alw’n noddwr. Mae’r gyfundrefn nawdd Haen 4 yn seiliedig ar ddwy egwyddor sylfaenol. Yr egwyddorion sylfaenol yw:

  1. braint ac nid hawl yw nawdd, felly rhaid i’r rhai sy’n cael y budd mwyaf uniongyrchol o ymfudo gan fyfyrwyr (darparwyr addysg) helpu i atal y system rhag cael ei chamddefnyddio; a
  2. rhaid bod y rhai sy’n ymgeisio i ddod i’r DU i astudio yn gymwys i wneud hynny, a rhaid bod ganddynt ddarparwr addysg dibynadwy sy’n wirioneddol yn dymuno eu haddysgu.

Sut ydym yn Dangos bod Rhaglenni Cydweithredol Newydd yn Cydymffurfio ag UKVI?
Byddai ymholiadau diwydrwydd dyladwy cyfreithiol yn cadarnhau cydymffurfiaeth. Er enghraifft:

  • Beth yw statws Haen 4 y partner/cynnig?
  • A oes unrhyw faterion o ran cydymffurfiaeth fisa Haen 4 UKVI y dylid bod yn ymwybodol ohonynt?
  • A yw’r prosesau monitro’n ddilys ac yn gydradd?

Ble Ellir dod o Hyd i Ragor o Wybodaeth am UKVI a Fisas Perthnasol e.e. Haen 4?
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Beth yw Diwydrwydd Dyladwy Ariannol?
Diben diwydrwydd dyladwy ariannol yw penderfynu:

  • A oes unrhyw beth a ddylai atal Prifysgol Abertawe rhag ymrwymo i’r trefniant hwn?
  • A oes materion y mae angen i Brifysgol Abertawe ei diogelu ei hun rhagddynt yn y contract?
  • A oes risg o fethiant ariannol neu bryderon ynghylch diddyledrwydd?
  • A oes pryderon ynghylch cynaliadwyedd ariannol?

Mae rhyw fath o ddiwydrwydd dyladwy ariannol yn angenrheidiol bob amser. Fodd bynnag, bydd yr hyn y mae ei angen yn dibynnu ar y trefniant ei hun. Diben diwydrwydd dyladwy ariannol yw gwirio cryfder ariannol sefydliad. Ar ei fwyaf cyfyngedig gall fod yn fater o wirio gwybodaeth ariannol sydd ar gael yn gyhoeddus. Ar ei fwyaf helaeth gall gynnwys hanes ariannol a hanes treth eich partner, a’r sefyllfa sefydliadol, y sefyllfa o ran rheolaeth a’r sefyllfa statudol. Byddai gwybodaeth am y math o bartner a’i risg cysylltiedig yn ofynnol, e.e. ai sefydliad cyhoeddus/mewn perchnogaeth wladol yw’r partner arfaethedig, ynteu ai sefydliad mewn perchnogaeth breifat ydyw? Byddai angen i sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus gael cymeradwyaeth ariannol gan y Pennaeth Cyllid (neu ei gynrychiolydd). Felly bydd angen i’r amser a’r costau sy’n gysylltiedig â hyn gael eu hystyried fel rhan o gynllun busnes y Coleg ar gyfer y fenter cydweithio. Byddai mentrau â mwy o risg a phrosiectau mwy yn golygu cyswllt pellach ag Adran Gyllid y Brifysgol.


Beth yw Diwydrwydd Dyladwy Moesegol?
Cynhelir diwydrwydd dyladwy moesegol i ganfod a yw’r partner arfaethedig yn alinio â pholisi a gwerthoedd Prifysgol Abertawe. Mae hyn yn bwysig gan y gallai diffyg aliniad effeithio’n anffafriol ar gydraddoldeb y profiad ar gyfer myfyrwyr ac achosi risg sylweddol i enw da’r Brifysgol. Dyma’r meysydd a fyddai’n cael eu hystyried fel arfer:

  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb;
  • Cynaliadwyedd;
  • Hawliau Dynol;
  • Moeseg;
  • Eiddo Deallusol;
  • A oes gan y partner arfaethedig unrhyw gysylltiadau neu berthnasoedd a allai achosi pryder? Er enghraifft, arfau, tybaco, cwmnïau olew, gweithrediadau mewn gwledydd nad ydynt yn gyson â gwerthoedd y Brifysgol.
  • A oes unrhyw bryderon cyfredol ynghylch teithio i/iechyd a diogelwch yn y lleoliad partner? Er enghraifft, a oes unrhyw gyngor cyfredol gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad?

Byddai mentrau â mwy o risg a phrosiectau mwy yn golygu cyswllt pellach â nifer o adrannau’r Brifysgol i gael cyngor, e.e. Llywodraethu, y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol, yr Adran Cydnerthedd a Pharhad Busnes.


 

< Diffiniadau | Cytundebau >

css.php