Diffiniadau

Beth yw Trefniadau Breiniol?

Mae trefniant breiniol yn seiliedig ar broses lle mae Prifysgol Abertawe fel sefydliad dyfarnu’n awdurdodi sefydliad arall i ddarparu (ac weithiau asesu) rhan neu’r cyfan o un (neu fwy) o’i rhaglenni cymeradwy ei hun neu raglen a gydnabyddir gan gorff addysgol arall, er enghraifft Edexcel.

Bydd y cyfrifoldeb am gynnwys academaidd y rhaglen, y strategaeth addysgu ac asesu, y gyfundrefn asesu, a sicrhau ansawdd yn aros gyda Phrifysgol Abertawe a’r partner fel y deiliad masnachfraint.

Mae rhaglenni breiniol, fel gyda’r holl raglenni cydweithredol eraill, yn ddibynnol ar berthynas weithio glòs rhwng Abertawe a’r partner(iaid) cydweithredol.

Mae Tiwtor Cyswllt dynodedig ym mhob sefydliad yn rôl sicrhau ansawdd allweddol yn y math hwn o gydweithio.

Mae Graddau Sylfaen yn rhaglenni y gellir eu sefydlu fel rhan o bartneriaeth AU/AB, neu gallant gael eu darparu gan Brifysgol Abertawe mewn lleoliadau oddi ar y campws yn y gymuned. Gall Graddau Sylfaen gynnwys partïon eraill lle mae partneriaid diwydiannol, cyllid allanol neu fentrau gan y Llywodraeth yn darparu’r grym ysgogol ar gyfer datblygu rhaglenni o’r fath.


Beth yw Trefniadau Dilysu?

Rhaglenni a ddylunnir ac a addysgir gan sefydliad arall yw rhaglenni wedi’u dilysu. Fodd bynnag, mae Prifysgol Abertawe yn goruchwylio ansawdd rhaglenni o’r fath ac yn gyfrifol am roi’r dyfarniad.

Mae Tiwtor Cyswllt dynodedig ym mhob sefydliad yn rôl sicrhau ansawdd allweddol yn y math hwn o gydweithio.


Beth yw Trefniadau Cydweithio Seiliedig ar Recriwtio?

Mae gweithgarwch seiliedig ar recriwtio yn canolbwyntio ar recriwtio a derbyn myfyrwyr o sefydliadau eraill (rhai tramor fel arall) i Abertawe ar gyfer cyfnod astudio a all arwain neu beidio ag arwain at ddyfarnu credyd a/neu ddyfarniad swyddogol gan Abertawe.

Caiff gweithgarwch cydweithredol o’r fath ei lywio gan y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol (SDRh) a bydd yn arwain fel rheol at Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a/neu Gytundeb Hwyluso/Adendwm gyda’r sefydliad dan sylw. Yr ieithwedd sy’n gysylltiedig â’r math hwn o weithgarwch cydweithredol yw trefniadau/cytundebau Cydweddu a Hwyluso.


Beth yw Trefniadau Cydweddu?

Mae Trefniadau Cydweddu yn ymwneud â myfyrwyr sy’n bodloni meini prawf academaidd ar un rhaglen ac sydd â hawl awtomatig ar sail academaidd i gael eu derbyn ar lefel uwch i gam dilynol corff sy’n dyfarnu gradd.


Beth yw Trefniadau Astudio Dramor, Symudedd a Chyfnewid?

Cytundeb yw hwn sy’n rhwymo’r Brifysgol i gyfnewid myfyrwyr (a, lle y bo’n berthnasol, staff) am gyfnod penodedig gan gynnwys, ymhlith rhaglenni eraill, Erasmus+. Gallai’r trefniadau hyn fod am flwyddyn ymsang fel y drydedd flwyddyn mewn cynllun gradd pedair blynedd, neu drefniant semester yn astudio dramor yn lle astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae myfyrwyr ar raglenni cyfnewid yn cael eu cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a’r sefydliad sy’n eu derbyn yn ystod eu cyfnod cyfnewid. Ceir gwybodaeth am ffioedd ar gyfer rhaglenni symudedd yma.


Beth yw Modiwlau Cydweithredol?

Modiwlau unigol yw’r rhain sy’n rhan o ddyfarniad Prifysgol Abertawe ond sydd naill ai’n cael eu darparu, eu haddysgu a’u hasesu yn gyfan gwbl gan sefydliad arall (ar neu oddi ar un o gampysau Prifysgol Abertawe) neu sy’n cael eu darparu, eu haddysgu a/neu eu hasesu yn rhannol gan sefydliad arall (ar neu oddi ar un o gampysau Prifysgol Abertawe).


Beth yw Lleoliadau Gwaith?

Math o ddysgu sydd wedi’i fwriadu’n benodol i wella cyflogadwyedd myfyrwyr yw lleoliadau gwaith. Mae lleoliadau gwaith sy’n dwyn credydau yn rhan annatod o raglen addysg uwch ac wedi’u hymgorffori ynddi.

Dyfernir credydau yn gydnabyddiaeth am y dysgu a gyflawnwyd mewn amgylchedd gwaith yn ystod cyfnod dysgu a gytunwyd ac a negodwyd, sy’n digwydd y tu allan i’r sefydliad addysg uwch.

Fel arfer, caiff cyflawniad myfyrwyr yn y gweithle ei asesu trwy ymarfer adfyfyriol ar y profiad gwaith a dynodi a chyflawni deilliannau dysgu priodol.

Mae lleoliadau gwaith sy’n dwyn credydau’n cynnig cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwaith sy’n berthnasol i’w rhaglen astudio ac y pennir deilliannau dysgu priodol ar ei gyfer gyda’r rhain yn cael eu hasesu. Yn dilyn cwblhau’r lleoliad yn llwyddiannus dyfernir credydau i fyfyrwyr sy’n cyfrannu at y radd.

Mae lleoliadau gwaith nad ydynt yn dwyn credydau’n cynnig cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwaith sy’n berthnasol i’w diddordebau gyrfaol a gallant gynnwys profiad megis cysgodi uwch aelod o staff i ddeall ei rôl neu weithio o fewn maes arbenigol mewn busnes, gan felly gronni gwybodaeth a phrofiad, e.e. cynllun Wythnos Waith Academi Cyflogadwyedd Abertawe. Fel arall, gallai’r rhain fod yn lleoliadau â thâl dros gyfnod hwy, fel arfer 6-8 wythnos lle mae myfyrwyr yn cyflawni prosiect neu ystod o brosiectau a bennir gan y cyflogwr ac sydd o werth i’r busnes, e.e. Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN). Fodd bynnag, nid ydynt wedi’u hymgorffori mewn rhaglen astudio ac ni ddyfernir credydau.

Mae lleoliadau gwaith seiliedig ar ymchwil yn ymwneud â gwaith ymchwil sydd wedi’i leoli’n bennaf yn y gweithle, e.e. gradd EngD neu MRes lle mae’r ymgeisydd ymchwil yn elwa o brofiad o weithio mewn amgylchedd ymchwil.


Beth yw Addysg Drawswladol?

Mae Addysg Drawswladol yn golygu darparu addysg ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u lleoli mewn gwlad wahanol i’r un y mae’r sefydliad dyfarnu wedi’i leoli ynddi. Darperir Addysg Drawswladol trwy amrywiaeth eang o raglenni a llwyfannau gan gynnwys, ymhlith eraill: rhaglenni dysgu o bell, partneriaethau addysgu, cyfadran hedegog, campysau alldraeth a CAEAiau. Mewn rhai achosion, gall Addysg Drawswladol olygu bod myfyrwyr yn symud, gyda rhywfaint o astudio byrdymor yn y wlad sy’n dyfarnu a/neu fod myfyrwyr yn cael mynediad at Addysg Drawswladol o hybiau addysg.

Mathau o Addysg Drawswladol

Cyfadran Hedegog

Yn nodweddiadol mae cyfadran hedegog yn golygu bod aelodau o staff Prifysgol Abertawe yn rhoi darpariaeth addysgu mewn bloc mewn lleoliad oddi ar y campws. Gall hyn fod mewn cydweithrediad â sefydliad ‘sy’n derbyn’ lleol sy’n darparu mynediad at adnoddau (TG, ystafell ddosbarth) neu gymorth academaidd lleol. Caiff y trefniant hwn ei ategu’n aml â Chytundeb Lefel Gwasanaeth.

Colegau Cynwysedig

Sefydliad preifat sy’n gweithredu yn agos at, neu o fewn y Brifysgol yw coleg cynwysedig. Yn nodweddiadol, mae darparwr yn cyflawni ei swyddogaethau canolog mewn pencadlys ar wahân ond gall weithredu mewn un neu fwy o’i golegau cynwysedig. Mae coleg cynwysedig fel arfer yn rhan o baratoi myfyrwyr ar gyfer mynediad i raglenni addysg uwch.

Dyfarniad Deuol

Trefniant yw dyfarniad dwbl lle mae Prifysgol Abertawe, ar y cyd ag un neu ddau o gyrff dyfarnu eraill, yn darparu rhaglen sy’n arwain at roi dyfarniadau a thystysgrifau ar wahân gan yr holl gyrff dyfarnu. Mae pob partner yn gyfrifol am ei drefniadau asesu a sicrhau ansawdd ei hun.

Cyd-ddyfarniad

Trefniant yw cyd-ddyfarniad lle mae Prifysgol Abertawe, ar y cyd ag un neu fwy o gyrff dyfarnu, yn darparu rhaglen a ddatblygir ac a ddarperir ar y cyd, sy’n arwain at wneud dyfarniad sengl ar y cyd gan yr holl gyrff dyfarnu. Cynhyrchir un dystysgrif, nid tystysgrifau ar wahân gan bob corff dyfarnu. Caiff y cyfrifoldeb am asesu a sicrhau ansawdd ei gytuno rhwng y partneriaid.

Gradd Ddwbl

Mae gradd ddwbl yn golygu bod dyfarniadau (a thystysgrifau) ar wahân am yr un rhaglen yn cael eu rhoi gan ddau gorff dyfarnu graddau sydd wedi darparu’r rhaglen astudio sy’n arwain at y dyfarniadau hynny ar y cyd â’i gilydd.

Gradd a Ddyfernir mewn Cydweithrediad

Ystyr gradd a ddyfernir mewn cydweithrediad yw pan fo dyfarniad gan Brifysgol Abertawe yn cael ei roi mewn cydweithrediad gyda sefydliad arall, er enghraifft sefydliad AU heb bwerau dyfarnu gradd ar y lefel angenrheidiol, neu sefydliad diwydiannol.


 

<  Dangos y Drefn o Rannu Cyfrifoldebau Rhanddeiliaid | Asesu a Rheoli Risg >

css.php